|
'Dau fydd am anghofio 2008': Rhodri Glyn ac Alun Cairns
|
Meddwl yr oeddwn i pa eiriau sy'n crynhoi'r flwyddyn i rai o'n sefydliadau a'n pwysigion yn yr hen Gymru fach yma gyda 2008 yn tynnu ei thraed ato.
Geiriau sy'n llonni neu yn digalonni. A dyma droi yn y lle cyntaf at rai o'n gwleidyddion.
Mae'n debyg mai'r hen air bach "sigâr" fydd yn aros ym meddwl y cyn Weinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas.
Mae'n siŵr fod y penderfyniad i danio un o'r rheiny ar noson o haf wedi creu mwy o embaras iddo na rhoi clec i obeithion perchnogion Y Byd.
"Greasy wops" ydi'r ddau air y mae'r Ceidwadwr dapyr Alun Cairns yn debyg o gael hunllefau amdanyn nhw am flynyddoedd tra bydd Lembit neu'n hytrach Lembo Opik yn gweddïo y bydd y gair "Cheeky" yn diflannu o bob geiriadur am byth.
Ac ar lefel llywodraeth leol y gair "cau" ddaru greu problemau i Dafydd Iwan yn enwedig o'i osod ochr yn ochr ag "ysgolion bach".
Embaras
"Bratiaith" yn yr ysgolion oedd y rheswm pam fod y "gwin wedi troi'n sur" i Caryl Parry Jones tra bod yr hen air "gorllewin" wedi bod yn gebyst o ddraenen yn ystlys bosus Radio Cymru.
A llithrodd y gair "Balmoral" i mewn i eirfa'r Noson Lawen ar ein Sianel deledu hoff a rhai yn awgrymu y byddai'r "Titanic" yn well teitl i raglen o'r fath.
Mae Archesgob Cymru wedi cael blwyddyn gythryblus yn methu gwybod i ba gyfeiriad i droi gyda'r gair "hoyw" a bu'r un gair yn embaras llwyr i'r Hen Gorff sy'n dilyn pennod ych a fi yn Nhrefeca.
Disgyblion Ysgolion Glantaf a Phlas Mawr yn dathlu ar lwyfan ein Prifwyl
|
A rŵan dau air bach newydd sy'n debyg o gael rhai pobl yng ngyddfau ei gilydd pan ddaw'r flwyddyn newydd. A'r geiriau hynny ydi "Barn" a "Sylw" - teitlau dau gylchgrawn misol sy'n ymgiprys am nawdd ariannol y Cyngor Llyfrau yn y dyfodol.
Ac mae'n ymddangos nad oes 'na fawr o gariad brawdol yn bodoli rhyngddynt. Trist iawn.
"Penblwydd," dyna i chi air a gafodd fwy o sylw yn ystod 2008, o leiaf ben-blwydd yr etholedig rai.
"Penblwydd" Ysgolion Glantaf a Phlas Mawr yn cael dathliad enfawr yn ystod Prifwyl Caerdydd ac yna ddiwedd y flwyddyn Ysgol Glanaethwy yn llwyfannu clamp o sbloets yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.
A'r ddau ddigwyddiad yn cael eu gorfodi arnon ni, wylwyr S4C.
Sgwn i a yw'r drws ar agor i weddill ysgolion Cymru yn 2009? Sgersli belîf.
A pha air sy'n crynhoi fy mlwyddyn i? A'r ateb, "cyfrinach".
Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda.
|