British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr 2008, 10:25 GMT
Ffordd osgoi: 'Gam yn nes'

Traffig yn Y Drenewydd
Ers misoedd mae'r arbenigwyr, Parsons Brinckerhoff, wedi bod yn chwilio am ateb i'r problemau traffig

Mae diwedd ar dagfeydd traffig drwy dref brysur gam yn nes ar l i welliannau i'r ffordd gael eu cymeradwyo.

Gallai gwella'r ffordd yn aradal y Drenewydd ddechrau yn 2011.

Ieuan Wyn Jones, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, sy wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ffordd newydd a gwella gwasanaeth rheilffordd yn yr ardal.

Mae 'na alw am ffordd osgoi wedi bod ers mwy na 30 mlynedd.

Dywedodd AC Trefaldwyn, Mick Bates, mai ffordd osgoi fyddai'r unig "ateb rhesymegol".

Cynlluniau

Ers misoedd mae'r arbenigwyr, Parsons Brinckerhoff, wedi bod yn chwilio am ateb i'r problemau traffig yn Y Drenewydd.

Mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi adroddiad erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf.

Gallai'r ffordd osgoi fod yn rhan ganolog cynlluniau yn ac o amgylch y dre.

Mae bwriad i godi archfarchnad Tesco a nifer o ffermydd gwynt yn yr ardal.

"Y ffordd osgoi yw'r unig ateb," meddai Mr Bates.

"Mae'r opsiynau eraill yn welliannau ond yn rhy gostus yn fy marn i."

Dywedodd y byddai'r gwaith yn dechrau ar ffordd osgoi'r Drenewydd rhwng mis Ebrill 2011 a mis Ebrill 2014.

"Fe fydda i'n parhau i ymgyrchu a rhoi pwysau ar Lywodraeth y Glymblaid, i sicrhau bod y prosiect yma yn mynd yn ei flaen heb unrhyw oedi tan y bydd ffordd osgoi'r Drenewydd yn cael ei adeiladu," meddai.

Gwir angen

Fe ddywedodd y Maer Sue Lawson bod gwir angen ffordd osgoi.

"Mae 'na sn am hyn ers rhai blynyddoedd ond does 'na ddim wedi digwydd."

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth fod y rhaglen i wella'r brif ffordd yn "ail-ganolbwyntio ar amcanion Cymru'n Un."

"Fe amcan ydi creu gwell cysylltiadau rhwng canolfannau a gwella cyfleoedd datblygu economaidd."

Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific