Rhybudd i yrrwyr fod yn ofalus oherwydd y tywydd dros nos
|
Fe fydd rhannau o Gymru yn wynebu eira nos Fercher a dydd Iau, ond mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd Cymru yn osgoi'r gwaetha o'r tywydd gaeafol ddydd Iau.
Mae disgwyl hyd at 2 fodfedd o eira ar dir uchel yng Nghymru tra bod disgwyl hyd at 8 modfedd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Yn ôl arbenigwyr fe fydd y tywydd gwaetha ar Fryniau Clwyd, Mynydd Helygain a Mynydd Hiraethog yn y gogledd ddwyrain.
Gallai rhannau o gymoedd de Cymru a Phowys weld llai na modfedd o eira hefyd.
'Siomedig'
Gyda mwy o law i'w ddisgwyl yn y de gall droi'n rhew mewn llefydd gan wneud ffyrdd yn beryglus iawn i yrwyr bore dydd Iau.
"Fe fydd rhai ardaloedd o Gymru yn gweld eira ddydd Iau, ond fydd o ddim yn achosi trafferthion dybryd," meddai dyn tywydd BBC Cymru, Derek Brockway.
"Dwi'n siwr y bydd nifer yn siomedig, gyda nifer yn disgwyl diwrnod i ffwrdd o'r gwaith neu ysgol.
"Ond fe fydd 'na gymysgedd o dywydd gaeafol nos Fercher, rhywfaint o law trwm, eira, gwyntoedd cryf a rhew.
"Rhannau o'r gogledd, y canolbarth a'r de ddwyrain fydd yn debygol o weld yr eira."
Yn y cyfamser mae disgwyl tywydd gwael iawn ar draws Yr Alban, gogledd a chanolbarth Lloegr.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus bore dydd Iau wrth yrru yn yr eira neu ar ffyrdd sydd wedi rhewi.