British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2008, 08:37 GMT
Golau gwyrdd i gynllun fferm wynt

Llun artist o'r cynllun fferm wynt
Llun artist o'r cynllun ffermydd gwynt

Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan wedi rhoi sęl bendith i godi fferm wynt fawr oddi ar arfordir y gogledd.

Ond mae ymgyrchwyr wedi dweud bod y newyddion yn "ysgytwol".

Gwynt y Môr, 10 milltir o Landudno, fydd yr ail fferm wynt fwyaf o'i math yn y byd.

Fe fydd cynllun cwmni Npower Renewables yn cynnwys 250 o dyrbinau.

Mae gwleidyddion lleol wedi beirniadu'r penderfyniad i beidio cynnal ymchwiliad cyhoeddus cyn rhoi caniatâd.

Ynghyd â thair fferm wynt gyfagos, bydd y safle'n cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 680,000 o dai.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, fod y datblygiad yn bwysig iawn.

'Pwerdy'

"Mae arfordir Gogledd Cymru yn troi'n bwerdy ar gyfer ynni adnewyddol.

"Ac mae Prydain yn arwain y byd yn y math yma o dechnoleg a datblygiadau oddi ar arfordir Gogledd Cymru yn golygu ein bod yn parhau ar y brig."

Ond yn ôl AC Aberconwy, Gareth Jones, mae'r penderfyniad yn un annemocrataidd.

"Mae'n groes i ddymuniadau Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Conwy a chynghorau tre Llandudno a Bae Colwyn oedd am gael ymchwiliad cyhoeddus."

Roedd AC Gorllewin Clwyd Darren Millar, hefyd yn anhapus.

"Mae Ceidwadwyr Cymru o blaid cynyddu yr ynni adnewyddol sydd ar gael yng Nghymru," meddai Mr Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr amgylchedd.

"Ond ar ôl dweud hynny, dwi ddim yn credu mai datblygiad o'r maint yma yw'r ffordd gywir o'i chwmpas hi."

Dywedodd John Lawson-Reay, cadeirydd mudiad Save our Scenery, fod caniatáu'r cynllun yn "ysgytwol".

"Twristiaeth erbyn hyn yw'r prif ddiwydiant yng Nghymru.

'Golygfeydd'

"Llandudno yw un o'r llefydd gorau ar lan y môr yng Nghymru ac mae ymwelwyr wedi dweud mai'r brif ystyriaeth yw'r golygfeydd."

Mae Gwynt y Môr wyth milltir o arfordir y gogledd, 10 milltir o Landudno ac 11 milltir o Gilgwri.

Y cynllun yw'r diweddara oddi ar arfordir y gogledd.

Mae yna 30 o dyrbinau ar safle Gogledd Hoyle tra bod Burbo â 25 ohonyn nhw, y ddau'n cynhyrchu ynni.

Fe fydd 25 o dyrbinau yn cael eu codi oddi ar arfordir Y Rhyl.



HEFYD
Cynllun ynni yn anelu'n uchel
26 Medi 08 |  Newyddion
Gohirio gwaith ar fferm wynt
01 Rhag 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific