British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2008, 15:07 GMT
Tref: Dangos cynllun 'cyffrous'

Llun gan bensaer o'r datblygiad yn Y Trallwng (llun: J Ross Developments)
Llun gan bensaer o'r datblygiad yn Y Trallwng

Mae cynlluniau uchelgeisiol i weddnewid tref ym Mhowys wedi cael eu harddangos.

Y cynllun yn Y Trallwng yw ail gymal prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i ail-ddatblygu marchnad da byw gyfagos, allai ddod 250 o swyddi i'r ardal.

Mae cyngor Y Trallwng yn dweud y gallai'r cynigion i ddatblygu'r dref greu cannoedd o swyddi ychwanegol.

Mewn ymgais i adnewyddu'r ardal fe all gwesty newydd, siopau ac unedau masnachol gael eu codi.

Bydd manylion ail gymal y gwaith yn cael eu harddangos yn neuadd y dref rhwng 10 y bore a 7 yr hwyr.

Gofynnwyd i dros 1,000 o bobl am eu syniadau a'u barn ar sut y dylid datblygu'r Trallwng.

'Gwasgfa Ariannol'

Unwaith i'r cynlluniau gael eu harddangos, mae disgwyl i gynghorwyr y dref benderfynu ar y cynigion terfynol i'w cyflwyno i gyngor Powys.

Dywedodd Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn, Mick Bates, ei fod yn edrych ymlaen at weld y cynigion: "Mae'r dyfodol yn edrych yn gyffrous iawn i'r Trallwng".

"Mae'n gyfnod anodd ar hyn o bryd gyda'r wasgfa ariannol, ond unwaith y down drwyddi bydd Y Trallwng mewn sefyllfa ddelfrydol i gymryd mantais o sefyllfa economaidd fydd wedi gwella."

Fe ddatgelodd yr archfarchnad Tesco ei chynlluniau ar gyfer y farchnad da byw wythnos ddiwethaf.

Datguddiwyd cynlluniau ar gyfer y farchnad yn 2006 pan fu pedwar o brif archfarchnadoedd y DU mewn trafodaethau gyda datblygwyr.

Roedd y cynlluniau cychwynnol yn cynnwys lle ar gyfer siopau eraill llai a bwyty. Cafodd trigolion yr ardal weld y cynigion fis Mai 2006.

Yn y cyfamser, mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar farchnad anifeiliad nepell o'r dref yn ardal Buttington Cross.



HEFYD
Tesco: Datblygu safle da byw
25 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific