British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2008, 15:22 GMT
Prosiectau: Hwb o £350m

Arian
£350 miliwn: Gwario ar ysbytai, ysgolion a thai

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi y bydd £350 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar brosiectau sy'n anelu at roi hwb i'r economi.

Bydd yr arian yn cael ei ryddhau o'r Gronfa Buddsoddi Strategol.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Andrew Davies, fod chwe thema i'r prosiectau: adfywio, byw'n bositif, newid yn yr hinsawdd, trafnidiaeth gynaladwy, dyfalbarhad a sgiliau.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwario hyd at £70 miliwn ar ailstrwythuro ysbytai yn Abertawe.

Fe fydd buddsoddiad mewn tair ysgol yn Wrecsam, Casnewydd a Blaenafon a mwy na £40 miliwn yn cael ei wario ar y rheilffyrdd.

Hefyd fe fydd £42 miliwn ar gael ar gyfer codi 500 o dai fforddadwy yng Nghymru.

'Blaengar'

Y nod ydi targedu meysydd arbennig yn y tymor byr er mwyn ceisio amddiffyn yr economi rhag dirwasgiad.

"Mae hon yn ffordd flaengar a chyffrous o fuddsoddi mewn prosiectau, gan ddod â budd mawr yn yr hinsawdd economaidd ag arian y gallwn ni ei ddosbarthu'n gyflym er mwyn cael gwir effaith", meddai Mr Davies.

"Ac mae hyn yn dangos bod Cymru fel gwlad fach yn gallu ymateb yn sydyn i'r problemau economaidd byd eang."

Cadw'n ôl

Cafodd y gronfa ei sefydlu yn Rhagfyr 2007.

Wrth ei sefydlu, fe gafodd arian ei gadw'n ôl oddi wrth wahanol adrannau o'r llywodraeth - er mwyn ei ddefnyddio a'i dargedu pan fyddai angen.

Mae gan bob adran yn Llywodraeth y Cynulliad yr hawl i wneud cais am arian ar gyfer gwahanol brosiectau.

Bwrdd rheoli'r gronfa, sy'n cynnwys arbenigwyr annibynnol, sy'n penderfynu pa brosiectau fydd yn cael eu cefnogi.

'Siom'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne AC: "Bydd pobl yng Nghymru yn edrych ar y gyllideb ac yn gweld ei bod yn cynnig mwy o'r un peth er bod angen newid cyfeiriad".

Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyllid, Jenny Randerson AC: "Nid yw'r gyllideb yn cynnwys unrhyw arian ychwanegol i gadw codiadau treth yn isel - mae hynny'n siom".

HEFYD
Cronfa adfywio: Holi ac ateb
23 Hyd 08 |  Newyddion
Arian Ewropeaidd: Cymru yn arwain
21 Medi 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific