British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 30 Tachwedd 2008, 17:12 GMT
Pl-droed: Arestio chwech

Yr heddlu ar l y gm rhwng Abertawe a Chaerdydd
Yr heddlu ar l y gm rhwng Abertawe a Chaerdydd

Cafodd chwech o gefnogwyr pl-droed eu harestio ar l y gm rhwng Abertawe a Chaerdydd ddydd Sul.

Fe wnaeth yr heddlu a rhai cefnogwyr wrthdaro ar l y gm yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

Dywedodd yr heddlu y bydd mwy o bobl yn cael eu harestio yn ddiweddarach.

Roedd tua 600 o heddweision ar ddyletswydd a doedd y trais ddim yn cyfateb i'r hyn a welwyd ar l y gm gwpan rhwng y ddau dm ym mis Medi.

Dydd Sul cychwynnodd y gm am 11.15am er mwyn osgoi trafferthion ac fe orffennodd y gm yn gyfartal ar ddwy gl yr un.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r ddau dm wynebu ei gilydd yn y gynghrair ers naw mlynedd.

Anafiadau

Mae 'na hanes o drais a gwrthdaro rhwng cefnogwyr y ddau glwb.

Cafodd degau o boteli a cherrig eu taflu gan rai cannoedd o gefnogwyr ond fe lwyddodd yr heddlu i'w symud i ffwrdd o Stadiwm Liberty a'u gwasgaru.

Mae'r heddlu wedi canmol cefnogwyr y ddau dm am eu hymddygiad.

Abertawe a Chaerdydd
Fe orffennodd y gm yn gyfartal 2-2

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Mark Mathias, a oedd yng ngofal y plismona, bod y mwyafrif o gefnogwyr y ddau dm wedi ymddwyn yn gyfrifol.

"Roedd 'na awyrgylch cwbl wahanol i'r gm ddiwethaf.

"Er hynny, roedd 'na rywfaint o wrthdaro ar l y gm.

"Roedd tua 50 o gefnogwyr yn bygwth rhai o fy swyddogion.

"Cafodd dau blisman eu hanafu, ond ddim yn ddifrifol," ychwanegodd.

Roedd pob tocyn wedi cael ei werthu gyda 18,000 o gefnogwyr yn gwylio'r ddau dm.

Bysiau

Roedd yr heddlu, y clybiau a chlybiau cefnogwyr wedi apelio ar i gefnogwyr y ddau dm i fwynhau'r gm ac i ymddwyn yn gywir.

Cafodd 30 o bobl eu harestio ar l y trafferthion ym mis Medi pan wnaeth y ddau dm herio'i gilydd yn Abertawe.

Doedden nhw ddim yn y gm ddydd Sul, unai oherwydd gwaharddiad llys neu fel rhan o'u hamodau mechnaeth.

Heddlu yn arestio un o'r cefnogwyr
Cafodd 30 o bobl eu harestio ym mis Medi

Pwysleisiodd yr heddlu bod y mwyafrif llethol o bobl oedd yn y gm ym mis Medi, gm yng nghwpan Carling, wedi ymddwyn yn gywir.

Roedd cefnogwyr Caerdydd wedi cael oddeutu 1,650 o docynnau ar gyfer y gm ddydd Sul ac yn cael eu cludo i'r stadiwm mewn bysiau o Barc Ninian.

Dywedodd yr heddlu bod "nifer sylweddol" o blismyn yn amlwg yn y ddinas yn ystod y dydd er mwyn sicrhau bod y "gwir gefnogwr" yn mwynhau'r gm.

Fe fydd y ddau dm yn wynebu ei gilydd ym Mharc Ninian ym mis Ebrill.



HEFYD
Gm: Arestio wyth
24 Medi 08 |  Newyddion
Galw ar gefnogwyr i ymddwyn
23 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific