British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 29 Tachwedd 2008, 10:01 GMT
Glanaethwy yn dathlu'r 18 oed

Ysgol Glanaethwy ar Last Choir Standing
Cafodd Cr hyn Ysgol Glanaethwy lwyddiant ar Last Choir Standing

Mae cr gafodd sylw a llwyddiant ar raglen deledu dros yr haf yn dathlu pen-blwydd eu hysgol yn 18 oed ddydd Sadwrn gyda chyngerdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Fe ddaeth Cr Ysgol Glanaethwy o Fangor yn ail drwy Brydain ar raglen Last Choir Standing y BBC.

"Mae'n anodd credu bod 'na 18 mlynedd ers i ni gychwyn yr ysgol," meddai arweinydd y cr a chyd-sylfaenydd yr ysgol Cefin Roberts.

"Mae'r albwm yma yn ffordd addas o edrych yn l ar gynyrchiadau blaenorol fel ein sioe gyntaf, Magdalen a chyflwyno rhai o ffefrynnau'r myfyrwyr presennol."

Llwyddiant

Cafodd yr ysgol ei sefydlu gan Cefin a Rhian Roberts 18 mlynedd yn l.

Ysgol Glanaethwy yn y stiwdio
Fe fydd aelodau iau'r ysgol yn cymryd rhan yn y cyngerdd

Mae cannoedd o ddisgyblion wedi cael cyfle i actio a chanu yn yr ysgol berfformio sydd ers sawl blwyddyn wedi cael cartref parhaol ar Barc Menai ym Mangor.

Fe fydd y cr wnaeth ymddangos ar y teledu yn perfformio yn y cyngerdd yn ogystal chr iau'r ysgol.

Yn ystod y flwyddyn fe gafodd y ddau gr gryn lwyddiant.

Fe ddaeth y cr iau i'r brig yng nghystadleuaeth Cr Cymru, yn Eisteddfod Llangollen ac yng Ngŵyl Music for Youth.

Fe wnaeth y cr ennill cr yr ŵyl yng ngŵyl Gorawl Stena yn Llandudno.

Cryno-ddisg

Daeth y cr hŷn i'r brig yng ngŵyl Music for Youth a nhw oedd cr yr ŵyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd yn ogystal dod i'r brig mewn gŵyl gorawl ym Mwdapest dros y Pasg.

Yn ystod y cyngerdd hefyd fe fydd cyn-ddisgyblion yr ysgol sydd wedi llwyddo yn y byd adloniant yn ymuno yn y dathlu.

Mae'r ysgol hefyd wedi recordio cryno ddisg i gyd-fynd dathliadau'r ysgol yn 18 oed, "O Fortuna".

Fe fydd y cryno ddisg, sy'n cael ei ryddhau ym mis Rhagfyr, ar gael yn archfarchnadoedd Tesco ledled Cymru.

Mae nifer o ganeuon y cr o'r rhaglen deledu ar y cryno ddisg a pherfformiadau gan y disgyblion iau hefyd.

Ymhlith y caneuon ar gryno ddisg Glanaethwy o'r gyfres y mae Adiemus, O Fortuna, a Circle of Life.



HEFYD
Cryno ddisg: Torri record
26 Tach 08 |  Newyddion
Cr meibion ydi'r cr gorau
31 Awst 08 |  Newyddion
Her i ddau gr o Gymru
30 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific