Cafodd Lynne a Ken Shaw eu hachub o westy Taj Mahal Palace
|
Mae cwpl o Gymru wedi disgrifio sut iddynt gael eu hachub gan filwyr y Gurkhas yn ystod yr ymosodiadau ar ddinas Mumbai yn India.
Erbyn hyn dywed yr awdurdodau fod o leaf 140 o bobl wedi eu lladd.
Cafodd Lynne a Ken shaw o Benarth eu hachub ar ôl i filwyr gynnal cyrch ar westy Taj Mahal Palace.
Mae'r ddau wedi hedfan o India i faes awyr Heathrow.
Bu'n rhaid i Mrs Shaw guddio dan fwrdd wrth i filwyr ymosod ar yr adeilad.
Dywed awdurdodau India fod o leiaf 130 o bobl wedi eu lladd a 300 wedi eu hanafu ar ôl cyfres o ymosodiadau mewn saith dinas.
Yn ôl chwaer Mr Shaw, Louise Booker, roedd y ddau wedi cael eu hysgwyd gan y digwyddiadau.
"Roedd hi wedi cael cyfle i wneud un alwad ffôn cyn dychwelyd.
"Dywedodd fod hi wedi clywed bom yn ffrwydro a lot fawr o saethu."
"Yna bu gorchymyn i adael yr ystafell gyda dwylo ar eu pennau.
"Adeg hynny doeddent ddim yn gwybod pwy oedd yn rhoi'r gorchymyn tan iddyn nhw weld y Ghurkhas," meddai Ms Booker.
Fe aed a nhw o'r gwesty mewn bws i ddiogelwch llysgenhadaeth Awstralia .
Roedd Mr a Mrs Shaw wedi bod ar daith o fis i India.