Y ganolfan: Prosesu hyd at 160,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn
|
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i greu safle ailgylchu gwerth £15 miliwn allai greu 32 o swyddi.
Bydd y ganolfan ar ran o hen safle gweithfeydd dur Shotton.
Wrth ddefnyddio system trin gwres, bydd y ganolfan yn prosesu hyd at 160,000 tunnell o wastraff y cartref a masnach bob blwyddyn.
Fe dderbyniodd y cyngor y cynlluniau ar ôl clywed y byddai cyfanswm y gwastraff fyddai'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn gostwng o 90%.
Cwmni Orchid Environmental o Swydd Gaerhirfryn fydd yn rheoli'r safle.
64,000 tunnell
O ddefnyddio gwastraff sydd wedi cael ei ailgylchu, fe fydd y safle'n cynhyrchu 64,000 tunnell o belenni tanwydd bob blwyddyn.
Mae swyddogion cynllunio'n dweud y bydd 24,000 tunnell o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn pan fydd y safle'n gweithredu'n llawn.
Tan ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd 180,000 tunnell yn cael eu gollwng ar ddau safle tirlenwi ym Mwcle.
Ar hyn o bryd, does dim cyfleusterau tirlenwi yn Sir y Fflint, ac mae'n debyg bod y cyngor yn gwario £4 miliwn bob blwyddyn yn anfon gwastraff i Wrecsam.
Mae'r cyngor wedi gwrthwynebu'r cynlluniau i ddatblygu safle tirlenwi ar Chwarel Parry yn Alltami ger Yr Wyddgrug, gan honni nad dyma'r ffordd orau o reoli gwastraff.
Mae'r cynlluniau hynny'n cael eu trafod mewn ymchwiliad cyhoeddus gafodd ei agor yn gynharach yn y mis.
'Technoleg bur'
Fe fydd y safle newydd mewn sied gafodd ei defnyddio yn y gorffennol i storio metel sgrap.
Dywedodd swyddogion cynllunio y byddai'r datblygiad yn "trin a rheoli gwastraff yn unol ag arfer y llywodraeth ..."
Roedd eu hadroddiad yn dweud bod y "datblygiad yn dechnoleg bur ag ychydig iawn o beryglon i'r amgylchedd."
|