BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2008, 12:00 GMT
Morglawdd: Cynllun 'mwy gwyrdd'

Delwedd gyfrifiadurol o greigres
Creigres yn llai niweidiol i fywyd gwyllt, medd yr RSPB

Byddai "reef" neu greigres artiffisial ar draws Mr Hafren yn cynhyrchu mwy o drydan ac yn llai niweidiol i fywyd gwyllt na chodi morglawdd, medd cadwriaethwyr.

Mae gwaith ymchwil yr RSPB wedi awgrymu y byddai creigres 12 milltir o hyd yn amharu llai ar y llanw, gan ddal tua dau fetr o ddŵr yn l.

Ers mis Ionawr mae Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Prydain wedi bod yn ystyried prosiectau fyddai'n gallu ffrwyno grym y llanw ym Mr Hafren.

Mae disgwyl i ymgynghoriad ddechrau y flwyddyn nesaf cyn dewis pa brosiectau fydd ar y rhestr fer.

Eisoes mae'r rhai o blaid codi morglawdd 10 milltir o hyd (16 chilomedr) rhwng Trwyn Larnog a Weston-super-Mare wedi dweud y byddai'n gallu cynhyrchu tua 17,000GW o ynni gln bob blwyddyn, 5% o anghenion ynni Prydain.

Yn rhatach

Ond mae'r RSPB wedi gofyn i gwmni peirianwyr Atkins ystyried cynllun mwy "gwyrdd".

Fe gasglon nhw y byddai adeiladu creigres artiffisial tua 2bn yn rhatach na chodi morglawdd - ac yn creu tua 20,000GW o ynni.

Fe fyddai hyn yn golygu codi creigres rhwng Aberddawan ym Mro Morgannwg a Minehead yng Ngwlad yr Haf.

Fel y morglawdd fe fyddai'n cynhyrchu trydan wrth i ddŵr lifo drwy dyrbeini. Ond yn wahanol i'r morglawdd, fyddai o ddim yn dal holl uchder y llanw yn l.

Mae'r ymchwil wedi awgrymu y byddai creigres yn cynhyrchu trydan am gyfnodau hirach na morglawdd ac yn fwy tebygol o ateb y galw am ynni pan mae'r galw hwnnw ar ei uchaf.

'Heb amharu'

Dywedodd yr RSPB eu bod yn ffafrio'r cynllun am y byddai'n amharu llai ar gynefin yr adar ac y byddai'r tyrbeini arafach yn llai peryglus i eogiaid a llysywod.

Mae cyfarwyddwr cadwraeth y mudiad, Mark Avery, wedi dweud: "Rhaid i'r llywodraeth ddod o hyd i atebion ynglŷn a sut i ddefnyddio grym y llanw heb amharu ar fywyd gwyllt Mr Hafren.

"Rydyn ni'n gwybod yn barod y byddai morglawdd yn llawer mwy costus na bron unrhyw ffurf arall ar ynni gwyrdd, ac yn niweidio safleoedd sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol", meddai.

"Byddai creigres yn llai niweidiol, yn costio llai i'r trethdalwr ac yn gallu cael ei hadeiladu'n gynt."

'Cyfaddawd'

Cafodd y greigres ei chynllunio gan Evans Engineering, cwmni teuluol bychan o Gernyw.

"Mae'n gyfaddawd sy'n gweithio, yn llawer mwy effeithiol na thyrbeini llanw a ddim yn cael yr un effaith ar yr amgylchedd morglawdd mawr", meddai perchennog y cwmni, Rupert Evans.

Dywedodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd eu bod yn dal i edrych ar bob un o'r deg opsiwn.

"Fel rhan o'r gwaith yma rydym wedi gwneud paratoi ein hymchwil ein hunain i'r posibilrwydd o gael creigres, ond fe fyddwn ni yn ystyried yr adroddiad yma gan yr RSPB."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^