British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2008, 07:47 GMT
Tesco: Datblygu safle da byw

Argraff pensaer o'r datblygiad newydd fydd yn gartref i Tesco
Argraff pensaer o'r datblygiad newydd fydd yn gartref i Tesco
Mae'r archfarchnad Tesco wedi cyhoeddi cynlluniau pellach i ehangu ym Mhowys, gydag archfarchnad newydd yn Y Trallwng.

Mae'r datblygiad yn rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnoedd i ail-ddatblygu marchnad da byw, ac mae disgwyl y bydd hyd at 250 o swyddi'n cael eu creu.

Cychwynnodd y gwaith o adeiladu'r farchnad newydd ar gyrion y dref yn Buttington Cross eisoes.

Cyhoeddodd cwmni Tesco bod ganddyn nhw gynllun i agor siopau eraill ym Mhowys yn Y Drenewydd, Machynlleth a Llandrindod.

'Dewis ehangach'

Cafodd y cynlluniau ar gyfer Y Trallwng eu cyhoeddi yn 2006, ac roedd pedwar o brif archfarchnadoedd y DU mewn trafodaethau o'r cychwyn.

Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn cynnwys gwagle i unedau masnachol eraill a bwyty, ac fe gafodd trigolion yr ardal gyfle i weld y cynlluniau ym mis Mai 2006.

Dywedodd Tesco y byddai'n creu 163 o swyddi yn Y Trallwng.

Ychwanegodd y llefarydd ar ran y cwmni, Felix Gummer: "Rydym yn gyffrous am ddatblygiad y safle strategaethol hon, gan fod ganddi gyswllt gref cherddwyr yng nghanol y dref.

"Fe fydd ein siop ni'n rhoi hwb sylweddol i'r dref drwy gynnig dewis ehangach i'r bobl.

"Rydym ni'n gwybod y byddwn ni'n annog pobl i ddod yn l i'r Trallwng yn hytrach na mynd i rywle arall i siopa.

"Fe fydd hyn yn ein helpu ni i ddiogelu dyfodol da i ganol y dref."

Croesawu'r cynllun

Esboniodd Mr Gummer y bydd y datblygiad yn galluogi'r farchnad da byw i gael ei hadeiladu yn Buttington Cross.

Cafodd y cynllun ei groesawu gan AC Trefaldwyn, Mick Bates.

"Fe fydd hyn yn sicrhau enw da'r dref fel lleoliad marchnad sy'n ffynnu ac fe fydd hefyd yn sicrhau swyddi i'r gymuned yn y tymor hir," meddai.

"Fe fydda i'n gwneud cais am gyfarfod gyda Tesco er mwyn sicrhau y bydd swyddi lleol ar gael a phartneriaethau'n cael eu meithrin."

HEFYD
Cynghorwyr yn croesawu Tesco
06 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific