British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 24 Tachwedd 2008, 07:56 GMT
Parcio: Atal camddefnyddio

Ysbyty Singelton
Mae mesurau parcio newydd yn dod i rym yn Ysbyty Singelton
Fe fydd system newydd yn dod i rym i atal pobl rhag camddefnyddio maes parcio di-dl mewn ysbyty cyffredinol.

Ddydd Llun bydd bariau yn rhwystro pobl rhag mynd o'r maes parcio yn Ysbyty Singleton, Abertawe, oni bai bod ganddyn nhw docyn metal.

Dywedodd y rheolwyr fod rhai nad oedd yn mynd i'r ysbyty yn defnyddio'r meysydd parcio.

Daeth parcio di-dl i rym yn ysbytai Cymru ar Ebrill 1.

Mae rheolwyr yr ysbyty wedi dweud bod yna brinder o 250 o lefydd yn y maes parcio ar yr adegau prysuraf.

Yn aml, medden nhw, roedd cleifion yn methu apwyntiadau oherwydd nad oedden nhw'n gallu parcio.

40

Bydd y tocynnau metal ar gyfer codi'r bariau ar gael o brif dderbynfeydd yr ysbyty.


Rydyn ni eisoes yn ceisio atal pobl rhag camddefnyddio'r meysydd parcio ond mae yna rai sy'n parhau i wneud hynny

Joanne Jones, Ysbyty Singleton,

Bydd wardeiniaid parcio hefyd yn gallu dosbarthu'r tocynnau.

Fe fydd pobl sy'n defnyddio'r maes parcio heb reswm digonol yn wynebu dirwy o 40.

Dywedodd y rheolwraig Joanne Jones mai'r nod fyddai sicrhau llefydd parcio ar gyfer cleifion ac ymwelwyr.

"Rydyn ni eisoes yn ceisio atal pobl rhag camddefnyddio'r meysydd parcio, ond mae yna rai sy'n parhau i wneud hynny. Dyw hyn ddim yn dderbyniol."

Mae gan staff yr ysbyty faes parcio ar wahn.

Maes parcio
Fe wnaeth y rhan fwyaf o ysbytai Cymru roi'r gorau i godi tl am barcio ar Ebrill 1

Ym mis Gorffennaf fe gyflwynodd Ysbyty Wrecsam Maelor fesurau newydd.

Yno mae gyrwyr yn cael parcio am gyfnod heb fod yn hirach na dwy awr (tair awr i'r yrwyr bathodyn 'Glas' parcio i'r anabl) ac ni chaniateir dychwelyd am ddwy awr.

Mae dirwy o 70 am dorri'r rheolau a gostyngiad i 50 os bydd yn cael ei thalu o fewn 14 diwrnod.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific