British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd 2008, 09:58 GMT
Anrhydeddu newyddiadurwr arwrol

Gareth Jones (Llun drwy garedigrwydd ei deulu)
Ysgrifennodd Gareth Jones am newyn mawr yr Wcrain yn y 1930au

Mae Llywodraeth yr Wcrin yn anrhydeddu newyddiadurwr Cymreig gafodd ei lofruddio yn 1935 ar drothwy ei ben-blwydd yn 30 oed.

Yn ystod y 1930au fe geisiodd Gareth Jones amlygu'r erchyllterau'r oedd yn digwydd wedi newyn dychrynllyd yn yr Ukrain.

Mewn seremoni yn San Steffan ddydd Sadwrn, fe fydd Jones yn cael Urdd Ryddid y wlad.

Roedd Jones yn un o'r newyddiadurwyr gorllewinol cyntaf i adrodd am Newyn Mawr 1932-33 yn yr Wcrain, yr Holodomor.

Arwr

Dywedodd Fedir Kurlak, prif weithredwr Cymdeithas yr Wcrain ym Mhrydain: "Aeth Gareth Jones ati i ohebu pan oedd cyfundrefn dotalitaraidd ddidrugaredd yn difa'r boblogaeth fesul cannoedd o filoedd.

"Dwi'n siwr y byddai Gareth yn gwybod pe bai wedi cael ei ddal yn adrodd am y newyn byddai wedi cael ei ladd."

Yn l nith Gareth Jones, Siriol Colley: "Cafodd Gareth ei anghofio'n bennaf, ac eithrio gan ei deulu, ond mae'n cael ei weld fel arwr gan bobl yr Wcrain.

"Fe wnaeth gymaint yn ei fywyd byr, ac mae'n gymaint o drueni ei fod wedi mynd chymaint o wybodaeth gydag e pan fu farw mor ifanc."

Dysgu'r iaith

Oherwydd polisau Stalin i aildrefnu'r economi amaethyddol bu'r newyn yn yr Wcrain a laddodd rhwng pump a 10 miliwn o boblogaeth y wlad rhwng 1932 a 1933.

Roedd Jones, a fagwyd yn Y Barri, yn benderfynol pan wnaeth ymweld 'r wlad i addysgu'r byd o'r hyn oedd yn digwydd yno.

Margaret Siriol Colley
Dywed Dr Colley nad ydi ei theulu wedi anghofio Gareth Jones

Roedd ei fam, Annie Gwen Jones, wedi gweithio i deulu John Hughes am dair blynedd yn yr Wcrain ac mae'n debyg bod ei diddordeb yn y wlad a'r iaith wedi ei drosglwyddo i'w mab.

Cafodd Jones ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth a dysgodd Rwsieg cyn mynd allan i'r Wcrain.

Yno daeth wyneb yn wyneb ac amgylchiadau trychinebus ac yn 1933, ar ei drydydd ymweliad, penderfynodd ysgrifennu cyfres o erthyglau i amlygu'r hyn oedd yn mynd ymlaen yno.

Llofruddio

Cafodd nifer o'i erthyglau, oedd yn datgelu troseddau'r Llywodraeth yn erbyn dynoliaeth, eu hatal ac fe gafodd Jones ei ddirmygu a'i wawdio gan ei gydweithwyr a oedd yn gwadu'r hil-laddiad.

Cafodd Jones ei lofruddio yn 1935 mewn amgylchiadau amheus yn l ei deulu ym Mongolia wrth iddo ymchwilio i fwriad Japan i ehangu ei thiriogaeth.

Wedi 16 niwrnod yn nwylo'r Cheiniaid cafodd ei ladd, ar drothwy ei ben-blwydd yn 30 oed.

Eisoes er mwyn diolch am yr hyn y ceisiodd ei wneud mae trigolion yr Wcrain wedi trefnu bod plac wedi cael ei osod yn Yr Hen Goleg yn Aberystwyth lle bu Jones yn fyfyriwr.

Cafodd y plac ei ddadorchuddio yno ym mis Mai i gofio amdano.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific