British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2008, 15:00 GMT
Prifysgolion: Cynnig graddau eu hunain

Myfyrwyr yn graddio
Mae rhai prifysgolion yn ystyried peidio cynnig graddau Prifysgol Cymru
Mae BBC Cymru yn deall bod rhai o brifysgolion Cymru yn ystyried peidio chyflwyno graddau Prifysgol Cymru o'r flwyddyn nesa ymlaen.

Gallai hyn arwain at y prifysgolion yn gadael Prifysgol Cymru.

Mae Prifysgol Bangor eisoes wedi penderfynu mewn egwyddor i gyflwyno graddau ei hunain.

Ac mae'n debyg fod Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe yn ystyried yr un peth.

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan AC, wedi dweud y byddai angen adolygu dyfodol Prifysgol Cymru fel sefydliad os yw prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe yn penderfynu cynnig eu graddau ei hun.

Ar raglen Dragon's Eye BBC Cymru fe ddywedodd Nigel Palastanga, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, nad oedd yn credu y byddai prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor, yn rhan o Brifysgol Cymru am lawer hirach.

'Proses ymgynghorol'

Mewn datganiad dywedodd Prifysgol Abertawe eu bod yn trafod cyflwyno eu graddau eu hunain.

"Fe fydd canlyniad y broses ymgynghorol yn cael ei drafod gan Senedd a Chyngor y Brifysgol.

"Tan hynny, fe fydd y brifysgol yn parhau i gynnig graddau Prifysgol Cymru."

Yn 2004 fe benderfynodd Prifysgol Caerdydd y byddai hi'n cynnig ei graddau ei hun.

Mae'r brifysgol yn aelod anffurfiol nid yn aelod llawn o Brifysgol Cymru.

"Fydda i ddim yn synnu os yw'r prifysgolion yma yn gadael," meddai Mr Palastanga.

'Dymuno'n dda'

"Rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw. Os byddan nhw'n gadael, iawn.

"Fe fydd ganddon ni bartneriaid eraill o fewn Cymru.

"Mae'r prifysgolion yma yn sefydliadau aeddfed a phob lwc iddyn nhw os ydyn nhw am fod yn annibynnol."



HEFYD
Coleg: Cyswllt 'yn niweidiol'
21 Tach 08 |  Newyddion
Coleg ffederal: Panel arbenigwyr
03 Tach 08 |  Newyddion
Ffoedd dysgu: Newid y drefn?
08 Hyd 08 |  Newyddion
Prifysgol yn ystyried uno
12 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific