Cafodd £37 miliwn ei godi yn yn y Deyrnas Unedig y llynedd
|
Mae pobl yng Nghymru wedi codi'r swm mwyaf erioed o arian ar gyfer Apêl Plant Mewn Angen y BBC.
Nid yw Cymru erioed wedi codi miliwn o bunnoedd o fewn noson o'r blaen ond nos Wener cafodd £1.2 miliwn ei addo.
Dros Brydain hyd yma mae bron i £21 miliwn wedi cael ei hel.
Y llynedd llwyddodd y gweithgareddau i godi £37 miliwn yn y Deyrnas Unedig ac mae 'na obaith y bydd mwy yn cael ei gasglu eleni.
Roedd yr apêl gynta' yn 1927 a'r apêl teledu cyntaf yn 1955.
Ers 1980 mae 'na farathon o raglen ar noson Plant Mewn Angen gyda llu o artistiaid yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian.
Côr newyddion
Roedd 'na ddigwyddiad mawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda John Barrowman a Gethin Jones yn cyflwyno'r arlwy.
Ac un o'r uchafbwyntiau oedd perfformiad unigryw o Delilah gan Only News Aloud! côr o aelodau adran Newyddion BBC Cymru.
Eleri Morgan a Garry Owen oedd dau o aelodau'r côr
|
Roedden nhw wedi bod yn brysur yn ymarfer o dan arweiniad arweinydd Only Men Aloud!, Tim Rhys-Evans.
"Dwi wedi mwynhau a phawb wedi cael hwyl", meddai'r arweinydd.
Ymhlith aelodau'r côr roedd Garry Owen, Eleri Morgan, Rhodri Llywelyn, Alun Thomas a Rhian Hâf.
"Roedd pawb yn frwdfrydig iawn," meddai'r cyflwynydd newyddion Garry Owen.
"Ar y noson roedd yn brofiad ffantastig!"
Mae'r elusen wedi tyfu dros y blynyddoedd ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a phobl ifanc.
"Mae'r holl weithgareddau yn arwain at y sefyllfa lle bydda i a'r tîm yn dosbarthu'r arian allan i brosiectau ar hyd a lled Cymru i gynorthwyo plant difreintiedig," meddai pennaeth Plant Mewn Angen yng Nghymru, Marc Phillips.
"Mae'r gynulleidfa yng Nghymru yn eithriadol o hael bob blwyddyn a'r ffigwr yn codi bob blwyddyn.
"Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol iawn i helpu plant a phobl ifanc."
I gyfrannu at yr apêl ewch i wefan Pudsey.