Fe fydd y ganolfan ganwio yn rhan o'r Pentref Olympaidd
|
Mae gwaith ar fin dechrau ar ganolfan slalom canwio o safon Olympaidd - y cyntaf o'i fath yn y DU.
Mae'n bosib y bydd y ganolfan ym Mae Caerdydd - gwerth £13.3 miliwn - yn cael ei defnyddio yn ystod Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.
Mae disgwyl y gallai 50,000 o bobl ddefnyddio'r ganolfan yn flynyddol fel rhan o bentref chwaraeon rhyngwladol Caerdydd.
Fe fydd craen 180 tunnell yn cael ei adeiladu ar y safle cyn i'r gwaith ddechrau ar adeiladu argae fydd yn dal dŵr ar gyfer pedwar pwmp cyn i'r cwrs slalom gael ei orffen yn derfynol.
Y freuddwyd Olympaidd
Ar ôl gorffen y gwaith, fe fydd y craen yn arnofio ar yr afon Elái er mwyn creu pwll fydd ar wahân i weddill yr afon.
Fe fydd y ganolfan, sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Caerdydd a'i hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad, yn cynnig cyfleusterau i gystadleuwyr o bob safon.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd Rodney Berman y bydd y ganolfan "yn ychwanegu at enw da'r ddinas fel canolfan chwaraeon o safon byd eang".
"Dwi'n gwybod fod 'na ddisgwyl mawr am y cyfleuster hwn - y cyntaf o'i fath yn y DU gyda hwyl ynghlwm wrth rafftio dŵr gwyn, a'r elfen o bwysigrwydd rhyngwladol i ganwio yn y DU.
"Byddai'n wych i Gymru pe bai modd defnyddio'r cyfleuster hwn ar gyfer rowndiau terfynol Gemau Olympaidd Llundain 2012," ychwanegodd.
'Budd i Gymru'
Credir bod oddeutu 38 clwb canwio yn Ne Cymru allai elwa o'r ganolfan, ac mae'n debygol o ddenu pobl o bob cwr o'r DU sy'n hoff o ganwio.
Mae gan y Pentref Rhyngwladol bwll nofio 50 medr, ac mae disgwyl y bydd arwyneb sglefrio iâ sy'n dal 2,000 gael ei ddisodli gan ganolfan i 5,000 o bobl dros y pum mlynedd nesaf.
Fe fydd y ganolfan hefyd yn cynnwys ardal i chwaraeon fel gymnasteg, codi pwysau, paffio, reslo, jiwdo, cleddyfa a phêl fasged.