Cafodd gwasanaethau cofio eu cynnal drwy Gymru ddydd Sul
|
Mae gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru ar Sul y Cofio wedi cael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, oedd yn arwain y cofio.
Mewn seremonïau ar draws Cymru cafodd y milwyr a laddwyd yn y ddwy ryfel byd a rhyfeloedd eraill eu cofio.
Y Frenhines oedd yn arwain y teyrngedau yn Llundain ac fe gafodd gwasanaethau hefyd eu cynnal yn Irac ac Afghanistan.
Caiff y gwasanaethau eu cynnal ddydd Sul deuddydd cyn Dydd y Cadoediad sy'n 90 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd bron i 900,000 o aelodau'r lluoedd arfog eu lladd yn ystod y Rhyfel a oedd i fod yn rhyfel i ddiweddu pob rhyfel.
Ymhlith y rhai oedd yn y gwasanaeth cenedlaethol yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays gyda Mr Morgan, yr oedd y dirprwy brif weinidog, Ieuan Wyn Jones; Llywydd y Cynulliad Yr Arglwydd Elis-Thomas, Arglwydd Faer Caerdydd, Kate Lloyd a chynrychiolwyr o'r Lluoedd Arfog presennol yn ogystal â chyn-filwyr.
Llai o gyn-filwyr
Roedd Arglwydd Faer Abertawe, Gareth Sullivan, yn ymuno gyda chyn-filwyr mewn gwasanaeth arbennig yno ac fe gafodd gwasanaethau eraill eu cynnal ar draws Cymru.
Mae Mr Morgan wedi talu teyrnged i'r milwyr wnaeth frwydro a cholli bywydau dros eu gwald.
"Mae'n 90 mlynedd eleni ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd dros 885,000 o filwyr Prydain eu lladd ar faes y gad yn Ffrainc a Gwlad Belg a llefydd eraill fel Gallipoli a'r Balkans.
"Yn flynyddol mae llai a llai o gyn-filwyr o'r rhyfel hwnnw yn bresennol yn y cofio.
"Ond ddylen ni fyth anghofio aberth y gwnaeth y bechgyn ac fe fyddem yn parhau i'w hanrhydeddu ar Sul y Cofio bob blwyddyn."
Ychwanegodd bod hi hefyd yn gyfle i gofio am y milwyr sydd allan yn gwasanaethu ar hyn o bryd mewn llefydd fel Affghanistan ac Irac.
Emosiwn
Ers 1945 mae 16,500 o aelodau'r lluoedd arfog wedi cael eu lladd mewn llefydd fel Bosnia, Afghanistan, Ynysoedd y Falkland ac Irac.
Dywedodd Mr Jones bod hi'n adeg i ail-ganolbwyntio ar sut y gellid cyflawni heddwch parhaol.
"Yng nghanol ein bywydau prysur o ddydd i ddydd rwy'n ystyried y gwasanaeth coffa fel cyfle pwysig i aros am ennyd a chofio am y rhai sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel - aelodau'r lluoedd arfog, eu teuluoedd, y rheini sy'n ymwneud â mentrau i gadw'r heddwch a'r bobl gyffredin," meddai.
"Rhaid cofio hefyd am alar y teuluoedd di-ri ar adeg emosiynol a theimladwy iawn iddyn nhw.
"Mae'r atgofion am ryfel a'i effaith ar deuluoedd a chymunedau yn goroesi ymhell y tu hwnt i faes y gad."
Dywed ei bod yn arwyddocâd ychwanegol eleni gan fod 'na 90 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Efallai bod hynny'n ymddangos yn amser maith yn ôl ond mae gen i, fel eraill, berthnasau sy'n dal i alaru am aelodau o'n teulu a fu farw mewn rhyfel.
"Mae'n adeg i aros am ennyd, i feddwl a chofio am eu haberth.
"Gadewch i ni hefyd arbed ar y cyfle hwn i ganolbwyntio unwaith eto, waeth beth fo'n gwleidyddiaeth, cenedl, ffydd a diwylliant, ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i gyflawni heddwch parhaol a gwirioneddol."