BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 8 Tachwedd 2008, 10:42 GMT
Corus: Undeb am gael sicrwydd

Gwaith dur Corus Port Talbot
Mae'r ffwrnais ym Mhort Talbot yn un o dri sydd wedi cael ei ddiffodd

Mae arweinwyr undeb wedi apelio ar Corus i beidio gwneud unrhyw benderfyniadau byrbwyll ar ôl i'r cwmni gyhoeddi y byddan nhw'n cynhyrchu 30% yn llai o ddur dros y chwe mis nesaf.

Mae tair ffwrnais - un ym Mhort Talbot, un yn Scunthorpe ac un yn Yr Iseldiroedd - wedi cau dros dro.

Dywedodd swyddogion Undeb Community sy'n cynrychioli 3,000 o weithwyr ym Mhort Talbot, eu bod eisiau sicrwydd gan y cwmni am ddyfodol y swyddi.

Problemau economaidd sy'n cael y bai yn ôl Corus.

"Rydym yn ffyddiog y bydd Corus yn gallu wynebu'r problemau tymor byr," meddai Robert Edwards, cyfarwyddwr rhanbarthol Community.

'Llwybr ansicrwydd'

"Yn sicr, allai'r newydd yma ddim bod wedi dod ar amser anoddach.

"O flaen y Nadolig, a phawb yn poeni am eu cyllid a'r aelodau yn cerdded ar hyd llwybr ansicrwydd."

Dur yn cael ei gynhyrchu
Mae'r ffwrnais ym Mhort Talbot ar gau am chwe mis

Mae'r cyhoeddiad diweddara yma gan Corus yn fwy na'r disgwyl.

Ym mis Hydref fe wnaethon nhw gyhoeddi y bydd 'na filiwn tunnell yn llai o ddur amrwd yn cael ei gynhyrchu tan fis Rhagfyr, sef 20% o'u gwaith.

Ond mae'r cyhoeddiad ddydd Gwener yn ymestyn y cyfnod ymhellach i 2009.

"Ar hyn o bryd, mae ganddo ni addewid gan Corus nad oes 'na unrhyw ddiswyddiadau cyn diwedd y flwyddyn," meddai Mr Edwards.

Disgwyddiadau

"Ond fe fydd yn rhaid i ni siarad ymhellach gyda'r cwmni, yn lleol ac yn genedlaethol, ynglŷn â be mae'r cyhoeddiad yn ei olygu i'n haelodau.

"Mae modd gwneud pethau eraill yn y cyfamser, gwaith cynnal a chadw."

Ychwanegodd y gallai ddeall agwedd y cwmni wrth benderfynu cau'r ffwrnais dros dro.

Dywedodd Prif Weithredwr Corus, Philippe Varin, bod rhaid i Corus "addasu i'r newidiadau amgylcheddol"

Mae'r cwmni yn cyflogi dros 24,000 o weithwyr yn y Deyrnas Unedig.

Fe wnaethon nhw gyhoeddi ddydd Iau y byddai 400 o swyddi yn yr adran ddosbarthu yn cael eu colli.



HEFYD
Corus: Colli 145 swydd
06 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^