Mae gwaith Nomansland gan Andrew Cooper yn archwilio'r Cadoediad a digwyddiadau'r Cofio trwy gae o goch
Mae'r cerflunydd o Gymru, Andrew Cooper, yn arddangos ei ddarn diweddaraf, Nomansland, yn Y Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae'n rhan o'r Cofio yng Nghymru dros y dyddiau nesaf wrth i bobl nodi Sul y Cofio a Dydd y Cadoediad.
Bydd y gosodiad ar agor i'r cyhoedd tan ddydd Mawrth.
Daw cyfnod y gosodiad i ben am 11am gyda chloch y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei ganu i gychwyn y ddau funud o dawelwch traddodiadol gydag Aelodau'r Cynulliad yn ymgynnull yn ardal yr Oriel.
Mae gosodiad Nomansland gan Andrew Cooper yn archwilio'r Cadoediad a digwyddiadau'r Cofio trwy gae o goch; gyda blodau pabi yn crogi o ddagrau o waed, wedi'u hadlewyrchu'n ddiddiwedd mewn drychau.
Bu'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gweithio gyda Llywydd y Cynulliad i sicrhau y gall y cyhoedd wylio a phrofi'r gofeb hon i'r sawl a gollodd eu bywydau mewn gwrthdrawiadau ddoe a heddiw.
Wrth gyfeirio at weithgarwch y Cofio, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Mae'r Cynulliad Cenedlaethol mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn croesawu'r cyfle i gofnodi'r Cofio trwy greu'r gofod defodol hwn ar gyfer myfyrdod a chofio personol.
"Mae croeso hefyd i aelodau'r cyhoedd ymuno â ni i gofnodi ein dau funud o dawelwch ar yr unfed awr ar ddeg, ar unfed diwrnod ar ddeg yr unfed mis ar ddeg."