BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Tachwedd 2008, 08:24 GMT
Arddangos lluniau da Vinci

Darlun o farchog 1508-10  (Y Casgliad Brenhinol© 2007 Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II)
Cafodd y darlun yma ei wneud gan da Vinci tua 1508

Bydd darluniau gan Leonardo da Vinci i'w gweld yn Aberystwyth fel rhan o arddangosfa sy'n dathlu pen-blwydd Tywysog Charles yn 60 oed.

Mae'r 10 o luniau o'r Casgliad Brenhinol yn rhan o arddangosfa fydd yn teithio ar draws y Deyrnas Unedig.

Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yw'r unig ymweliad â Chymru.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld o Dachwedd 8 tan Chwefror 7.

Mae'r darluniau fel arfer yn cael eu cadw yng Nghastell Windsor.

Dywedodd Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol bod y darluniau yn rhai o'r rhai "coeth" a "mwya amrywiol, rhyfeddol a thechnegol wych o blith gwaith holl arlunwyr y byd".

Mae'r darluniau wedi bod yn y Casgliad Brenhinol ers y 17eg Ganrif, o bosib wedi eu derbyn yn ystod cyfnod Charles II.

Cafodd rhai o'i ddarluniau eu gweld yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe am ddau fis yn 2002 gyda dros 30,000 o ymwelwyr yn mynd yno.

Darlun mewn arfdy, 1485-90   (Y Casgliad Brenhinol© 2007 Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II)
Fe fydd y darlun yma o olygfa mewn arfdy o waith da Vinci i'w weld yn Aberystwyth

Ac fe gafodd 169,000 o ymwelwyr ag Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd, y llynedd weld 10 o ddarluniau yn ystod arddangosfa i nodi pen-blwydd y Frenhines yn 80 oed.

Yn ôl Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, "Rwyf wrth fy modd fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cael ei dewis fel un o'r lleoliadau ar gyfer yr arddangosfa bwysig hon o'r Casgliad Brenhinol.

"Bydd yr Arddangosfa yn gyfle i bobl Cymru ac i ymwelwyr ymhellach i ffwrdd fwynhau ystod o luniadau godidog gan un o arlunwyr mawr y byd."

Ganwyd Da Vinci yn 1452, a daeth yn enwog am ei waith fel cerflunydd, arlunydd, pensaer, peiriannydd a gwyddonydd.



HEFYD
'Gwyl goll' wedi ei darganfod
13 Gorff 08 |  Newyddion
Arddangosfa o'r wisg Gymreig
20 Meh 08 |  Newyddion
Mewn Llun: Y Wisg Gymreig
20 Meh 08 |  photo galleries

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^