British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 8 Tachwedd 2008, 16:23 GMT
Post Prynhawn yn 30 oed

Gareth Glyn
O'r diwrnod cyntaf, Gareth Glyn, sydd wedi bod yn y gadair

Roedd rhaglen newyddion radio y Post Prynhawn yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed ddydd Iau.

Gareth Glyn, y cyflwynydd presennol, oedd yn darlledu'r rhifyn cyntaf erioed ar Dachwedd 6 1978.

Mae'r rhaglen yn cael ei gynhyrchu a'i chyflyno ym Mryn Meirion, Bangor.

Wyre Thomas ym Mangor oedd yn gyfrifol am y rhaglen gyntaf ac ef hefyd a fedyddiodd y rhaglen newydd â'r enw Post Prynhawn.

Yn ôl Gareth Glyn, mae'r 30 mlynedd diwethaf wedi "gwibio heibio'n eithriadol o gyflym".

Atgofion

Yn ystod yr wythnos diwethaf bu'r rhaglen yn edrych yn ôl dros y blynyddoedd a'r dros 7,500 o rifynnau a ddarlledwyd.

Dau fu'n gohebu ar straeon lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i'r gyfres ydi Alun Rhys ac Aled Gwyn a fu'n rhannu eu hatgofion gyda Gareth Glyn yn ystod yr wythnos.

"Mae 'na nifer o'r straeon wedi mynd yn ango'," meddai Alun Rhys am y cannoedd ar gannoedd o eitemau a wnaeth i'r rhaglen.

Councillor Eric Harries argues there are not enough Welsh speakers in Milford Haven to justify its cost

"Ond mae'r straeon mawr yn dal yn y cof."

Dywed ei fod yn cofio cael galwad ffôn a'i anfon i'r Alban ar ôl damwain awyren.

"Pedair awr ar ôl damwain Lockerbie dwi'n cofio cyrraedd y dref a gweld y dinistr na weles i erioed.

"Wnai fyth anghofio'r golygfeydd ond roeddwn yno i wneud adroddiadau i'r Post Prynhawn a wedyn mae'r cyfan yn taro rhywun."

Dywed Aled Gwyn ei fod yn cofio gohebu yn ystod Streic y Glowyr.

"Roedd 'na gymaint yn digwydd yn ddyddiol, roeddwn bron yn ohebydd Streic y Glowyr.

"Prin wnes i stori ar ddim arall yn ystod y cyfnod yma."

• Mae Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru dydd Llun i ddydd Gwener am 5pm.



HEFYD
Geni'r Post Prynhawn
05 Tach 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific