BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2008, 10:48 GMT
CD dathlu gan Glanaethwy

Ysgol Glanaethwy
Cafodd Ysgol Glanaethwy eu curo yn y gyfres gan Only Men Aloud!

Mae cr gafodd sylw a llwyddiant ar raglen deledu dros yr haf wedi recordio cryno ddisg.

Fe ddaeth Cr Ysgol Glanaethwy o Fangor sylw drwy Brydain ar raglen Last Choir Standing y BBC.

Caiff y cryno ddisg ei rhyddhau i gyd-fynd dathliadau'r ysgol yn 18 oed ym mis yma.

Mae nifer o ganeuon y cr o'r rhaglen deledu ar y cryno ddisg a pherfformiadau gan y disgyblion iau.

Cr arall o Gymru, Only Men Aloud! o Gaerdydd, wnaeth ennill y gystadleuaeth.

Ymhlith y caneuon fydd ar gryno ddisg Glanaethwy o'r gyfres y mae Adiemus, O Fortuna, a Circle of Life.

Profiad arbennig

"Mae'n anodd credu bod 'na 18 mlynedd ers i ni gychwyn yr ysgol," meddai arweinydd y cr a chyd-sylfaenydd yr ysgol Cefin Roberts.

"Mae'r albwm yma yn ffordd addas o edrych yn l ar gynyrchiadau blaenorol fel ein sioe gyntaf, Magdalen a chyflwyno rhai o ffefrynnau'r myfyrwyr presennol."

Dywedodd un o ddisgyblion Ysgol Glanaethwy, Ioan Pollard o Ddyffryn Nantlle, bod y profiad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn "brofiad arbennig iawn".

Ysgol Glanaethwy yn y stiwdio
Fe fydd aelodau iau'r ysgol ar y cryno ddisg hefyd

"Roedd yn waith caled, ond yn werth chweil.

"Roeddem yn cychwyn ar y bws o Fangor am saith yn y bore, ymarfer yn y stiwdio trwy'r prynhawn.

"Yna noson gynnar cyn bod yn l yn y stiwdio am naw y bore canlynol ar gyfer ymarferion cyn y sioe byw am chwech."

Dywedodd bod aelodau'r corau i gyd wedi dod ymlaen gyda'i gilydd, yn enwedig y merched gyda chriw Only Men Aloud! a'r bechgyn gydag aelodau cr ACM!

Fe fydd gan Ysgol Glanaethwy gyngerdd dathlu'r 18 oed yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar Dachwedd 29.



HEFYD
'Cytundeb mawr' i gr meibion
30 Medi 08 |  Newyddion
Cr meibion ydi'r cr gorau
31 Awst 08 |  Newyddion
Her i ddau gr o Gymru
30 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^