Mae tua 300 o hunanladdiadau yng Nghymru pob blwyddyn
|
Cafodd Cynllun Gweithredu Atal Hunanladdiad i Gymru ei gyhoeddi gan Lywodraeth y Cynulliad ddydd Mawrth.
Bydd staff mewn ysgolion, canolfannau gwaith, canolfannau iechyd a heddluoedd yn cael eu hyfforddi i adnabod problemau iechyd meddwl.
Caiff llinell ffôn 24 awr ei sefydlu hefyd.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart, roedd y marwolaethau diweddar yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr yn tanlinellu'r angen i ddod â'r holl bolisïau atal hunanladdiad at ei gilydd er mwyn creu un ddogfen.
Dywedodd swyddogion y llywodraeth bod gwersi wedi cael eu dysgu o'r achosion yma ar gyfer y strategaeth £10 miliwn.
Mae teuluoedd rhai o'r bobl ifanc wnaeth farw ym Mhen-y-Bont ar Ogwr wedi cwyno bod y broses wedi cymryd cymaint o amser cyn i'r strategaeth gael ei gyflwyno yng Nghymru.
Bwriad y cynllun ydi i adnabod y symptomau a helpu pobl yn gynnar, a rhoi cymorth arbenigol iddyn nhw.
Dyma'r tro cyntaf i'r cynllun gael ei gyhoeddi ar ôl i'r llywodraeth gyhoeddi ym mis Chwefror eu bod yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau ar ôl pryderon wedi nifer yr hunanladdiadau honedig ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
'Cymorth'
Mae cynllun Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi bod yn cael ei gynnal mewn rhai llefydd o Gymru fel cynllun peilot.
Erbyn mis Mawrth mae disgwyl y bydd 75 o hyfforddwyr yn cynnal cyrsiau drwy Gymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Bydd y cynllun yn ceisio arwain at well dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl a'u gwneud yn haws i bobl gael cymorth angenrheidiol".
Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Terry Jewell, ei fod yn credu'n bersonol na fyddai'r strategaeth wedi cael ei ddatblygu oni bai am y sylw a roddwyd i'r achosion ym Mhen-y-Bont.
Ond pwysleisiodd Phill Chick, pennaeth datblygu iechyd meddwl llywodraeth y cynulliad, nad pwnc i Ben-y-bont yn unig ydi hwn.
"Mae hyn yn effeithio ar gymunedau ar draws Cymru a dwi'n meddwl bod rhaid bod yn eglur mai cynllun ar gyfer Cymru gyfan ydi hon," meddai.
Eisoes cyhoeddwyd y bydd £6.5 miliwn yn cael ei wario ar wasanaeth cwnsela mewn ysgolion dros y tair blynedd nesaf.
Mae tua 300 o hunanladdiadau yng Nghymru pob blwyddyn ac mae'r nifer wedi aros yn statig dros y degawd diwethaf.
Ers mis Ionawr 2007 mae 'na honiadau bod 23 o bobl ifanc wedi lladd eu hunain yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr.
Mae'r cynllun wedi ystyried tystiolaeth o bob rhan o Brydain, gan gynnwys ymgyrch "Dewiswch Fywyd" sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Yr Alban.
Roedd Papyrus, elusen sy'n cynnig cyngor i deuluoedd a ffrindiau pobl ifanc sy'n ystyried lladd eu hunain, wedi dweud wrth y BBC bod gwir angen am sefydlu strategaeth yng Nghymru.