Dywedodd Mr Miller ei fod bellach wedi cyflawni ei brif amcanion
|
Fe fydd prif weithredwr cyngor sir Ddinbych, Ian Miller, yn gadael ei swydd ddiwedd yr wythnos.
Ar ôl bod wrth y llyw ers 2002 dywedodd Mr Miller ei fod bellach wedi cyflawni ei brif amcanion, a bod gwelliannau mawr wedi eu cyflwyno yn ystod y cyfnod hwnnw.
Roedd dau adroddiad beirniadol ym Medi'r llynedd am ddyfodol addysg yn Sir Ddinbych a chafodd y cyngor ei feirniadu yn ddiweddar oherwydd y modd yr agorodd a chau cartre' preswyl i blant awtistig.
Yn ôl yr aelod seneddol lleol Ann Jones, mae ei ymadawiad yn "anffodus ond angenrheidiol".
Dywedodd Ms Jones bod gan y sir "ddelwedd o gael ei lywodraethu'n wael".
'Cyflawni'r prif amcanion'
Yn ôl Mr Miller: "Wedi bron i saith mlynedd gyda'r Cyngor, rwy'n teimlo fy mod wedi cyflawni'r prif amcanion yr oeddwn wedi eu gosod i mi fy hun pan ymunais i. Wedi cryn werthuso fy mlaenoriaethau a thrafodaethau positif, manwl gyda chydweithwyr, rwyf wedi penderfynu mai dyma'r amser addas i ddilyn sialensiau newydd.
"O ganlyniad i'r gwaith yr wyf wedi ei arwain yn y blynyddoedd diweddar, yn cynnwys yr ymrwymiad cryf i gyd-weithio, mae'r Cyngor yn awr mewn safle i daclo sialensiau'r cyfnod sydd i ddod a pharhau ar ei siwrne o welliannau dan arweinyddiaeth newydd.
"Mae cyllidebau'r Cyngor wedi eu sefydlogi, fe sicrhawyd cronfeydd sylweddol wrth gefn ac mae blaenoriaethau strategol clir yn eu lle ar gyfer y cyfnod hyd at yr etholiadau nesaf yn 2012.
"Rwy'n credu'n bendant fod y sylfeini yn eu lle i'r Cyngor fynd o nerth i nerth."
'Gwas ardderchog'
Dywedodd arweinydd y cyngor, Hugh Evans, "Mae Ian wedi bod yn was ardderchog i Gyngor Sir Ddinbych a theulu ehangach llywodraeth leol. Mae wedi dangos ymrwymiad eithaf, ymroddiad a gonestrwydd yn ystod ei gyfnod gyda Sir Ddinbych."
Roedd adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac arolygwyr Estyn wedi dweud bod y cynllun i sefydlu cartre' Hyfrydle wedi'i reoli'n wael, bod 'na ddiffyg cyfathrebu a diffyg cydweithio o fewn yr awdurdod lleol.
Roedd dau adroddiad beirniadol ym Medi'r llynedd am ddyfodol addysg yn Sir Ddinbych , un gan gwmni Cambridge Education a'r llall gan y corff arolygu addysg Estyn.
Dywedodd adroddiad Cambridge Education nad yw plant na phobl ifanc yn cael y sgiliau angenrheidiol.
Nododd Estyn fod 'na dangyrhaeddiad ymhlith plant 7, 11 ac 16 oed.
Ariannu addysg uwchradd yn y sir, meddai Estyn, oedd yr ail isaf yng Nghymru ac roedd perfformiad addysg uwchradd yn y sir yn is na'r hyn oedd yn dderbyniol drwy Gymru.
Mae'r cyngor wedi dweud eu bod nhw wedi buddsoddi arian er mwyn ceisio gwella'r sefyllfa.