BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 3 Tachwedd 2008, 08:34 GMT
Gyrwyr yn peryglu bywydau

Croesfan rheilffordd
Roedd 'na sawl achos o ddamweiniau posib ar groesfannau

Dywedodd cwmni Network Rail bod gyrwyr yng Nghymru yn peryglu eu bywydau drwy anwybyddu rhybuddion ar groesfannau rheilffordd.

Mae 'na ddamwain bron a digwydd bob yn ail wythnos pan mae gyrwyr yn anwybyddu arwyddion a golau neu hyd yn oed yn gwyro heibio'r bariau ar groesfan yn l honiadau.

Mae Network Rail yn lansio ymgyrch hysbysebion sy'n dangos canlyniadau trasig camddefnyddio'r croesfannau.

Cafodd yr hysbyseb ei ffilmio'n rhannol yn Llanboidy yn Sir Gaerfyrddin.

Fe fydd yr hysbyseb yn cael ei ddarlledu ar draws y Deyrnas Unedig.

Cerddwyr

Rhwng mis Ionawr a mis Medi 2008 bu born i 20 o ddamweiniau ar groesfannau yng Nghymru.

Yn yr un cyfnod roedd 'na bron i 300 o adroddiadau o achosion camddefnyddio croesfannau rheilffordd ar draws Cymru ond mae'n bosib bod y ffigwr cywir llawer uwch.

Mae cerddwyr yn peryglu eu bywydau ar groesfannau hefyd.

Yn ystod 2008 bu bron i 15 o ddamweiniau gyda cherddwyr.

Dywedodd Mark Langman, rheolwr cyffredinol gyda Networkl Rail, bod pobl yn peryglu eu bywydau yn wythnosol.

"Mae tri gyrrwr bob wythnos yn peryglu eu bywydau a bywydau eraill drwy gam-ddefnyddio'r croesfannau.

"Neges syml sydd ganddo ni i bawb, peidiwch chymryd y siawns."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^