BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 2 Tachwedd 2008, 17:48 GMT
Diffyg gwatwar yn dweud y cyfan

Aled Huw
BBC Cymru sy'n Washington

Barack Obama a'i deulu
Mae'r polau piniwn yn parhau i awgrymu buddugoliaeth i Obama
"Beth yw'r darogan?"Neges destun fer nos Wener gan ffrind o Gymru, sydd mewn gwirionedd yn gofyn y cyfan!

Do ni ddim yn disgwyl dim gwahannol gan rywun raddiodd mewn gwleidyddiaeth, ond fe ysgogodd ei neges ar oriau o gymharu.

Roedd hi'n nos Wener - Calan Gaea' ac roedd ardal Georgetown yng ngorllewin Washington dan ei sang.

Yr hen a'r ifanc wedi gwisgo'n eu dillad lliwgar 'Halloween'.

Roedd y bwganod arferol yno - ysbrydion, gwrachod, sgerbydau...ac ambell un gwbwl newydd.

Motown

Dyna pryd y dechreuais i gymharu.

Union 12 mlynedd yn ôl, fe brofais i noson Galan Gaea' go iawn - a hynny yn ardal galed ddi-freintiedig downtown Detroit.

Roeddwn i wedi cael caniatad i ffilmio gyda gwasanaeth tân y ddinas, ac roedd cynnau tân yn fwriadol ar noson Halloween yn rhan o ddiwylliant tywyll Motown.

Dyna brofiad i godi ofn. Roedd yr etholiad fel pe bai'n digwydd yn rhywle arall.

Bedair blynedd wedyn ac ro ni ar strydoedd breintiedig Boston.

Bryd hynny hefyd roedd America'n wynebu newid ar ôl cyfnod yr Arlywydd Clinton.

Dim te parti ychwaith, ar yr unfed awr ar ddeg, doedd yna ddim i rannu George Bush ac Al Gore.

Codi bwganod

Ar ôl achos uchel gyhuddo, a sgandal Monica Lewinski, roedd y wlad hon yn chwennych newid bryd hynny- ond doedd yna ddim cyfeiriad newydd amlwg.

Dychwelyd at linach teulu Bush neu barhau a dirprwy Bill Clinton.

Yn 2004 hefyd roedd y rhyfel yn Irac eisoes yn codi bwganod - ac roedd nifer sylweddol o etholwyr America am ddatgan eu hanfodlonrwydd. Ond fe ddaeth Ohio i achub George W.

John McCain
Mae McCain wedi ceisio ymbellahu o gael ei gysylltu gyda Geroge W Bush
Dair gwaith o'r blaen fe weles i ddychan Americanwyr ar ei fwya gonest ac amrwd.

Digon o eneidiau ar strydoedd Detroit, Boston a Washington wedi'u gwisgo fel Bill Clinton, Bob Dole, Al Gore, John Kerry a George W. Bush.

Fe allwch chi ddychmygu'r gwisgoedd - Dole fel yr hen wr, George W Bush a'i bladur fawr, Al Gore fel dracula, Bill Clinton mewn ffrog ddu a sigâr.....

A dyna ddod a fi at eleni'n Georgetown.

Roedd yna un ysbryd yn cael tipyn o sylw.

Dyn mewn siwt oren tebyg i garcharor ym mae Guantanamo, ac ar ei ben mwgwd o John McCain.

Ond roedd wedi mynd ymhellach a gwthio par o sanau i ochr i'w e'n - i watwar yr ymgeisydd gweriniaethol ymhellach.

Y neges yn amlwg, a'r cyswllt gyda gwaddol George W Bush i America'n bwerus.

Yr hyn sy'n ddi-gymhariaeth er hynny yw na weles i, gydol y noson, yr un person yn bychanu Barack Obama mewn unrhyw fodd negyddol, sarhaus.

"Beth yw'r darogan?" Mae'r diffyg cymhariaeth yn dweud y cyfan.



HEFYD
Y lliwiau a'r sioe etholiadol
30 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^