Daeth y camgymeriad i sylw cylchgrawn Golwg
|
Mae cyngor sir wedi dweud y bydd arwydd newydd yn cael ei roi yn lle un gwallus sy wedi gwneud siaradwyr Cymraeg yn ddig.
Roedd yr arwydd Saesneg yn Abertawe yn dweud nad oedd yna fynediad i lorďau.
Ond yn Gymraeg y geiriad oedd "Nid wyf yn y swyddfa ar hyn o bryd. Anfonwch unrhyw waith i'w gyfieithu."
Roedd Cyngor Abertawe wedi gofyn i'w hadran gyfeithu i baratoi fersiwn Cymraeg o'r canlynol: "No entry for heavy goods vehicles. Residential site only."
Ar ôl derbyn ateb i'w cais ar e-bost, fe benderfynodd y cyngor fynd ati i archebu arwydd.
Daeth y camgymeriad i sylw cylchgrawn Golwg wrth i nifer o ddarllenwyr anfon lluniau i mewn.
"Rydan ni wedi cyhoeddi nifer o luniau tebyg yn ystod y misoedd diwetha," meddai Dylan Iorwerth, golygydd gyfarwyddwr Golwg
'Rhy gyffredin'
"Mae lluniau o'r fath yn rhy gyffredin o lawer.
"Mae'n dda gweld pobl yn ymdrechu i gyfeithu ond dylid gofyn am help arbenigwyr."
Dywedodd llefarydd y cyngor eu bod nhw wedi tynnu'r arwydd i lawr ar ôl cael gwybod am y camgymeriad.
"Bydd arwydd newydd yn cael ei godi yn fuan," meddai.