BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Hydref 2008, 14:23 GMT 15:23 UK
200 o swyddi'n diflannu

arwydd L'Oreal
Mae'r cwmni'n cynhyrchu shampŵ a deunyddiau steilio gwallt
Dywedodd cwmni y byddai 200 o swyddi'n diflannu wrth i ffatri gael ei gwerthu i gwmni arall o Ffrainc.

Ar hyn o bryd mae 260 yn gweithio yn ffatri L'Oreal yn Nhonysguboriau ger Llantrisant.

Y bwriad, medd y cwmni, yw gwerthu'r ffatri i gwmni Fareva.

Fe agorodd y ffatri, sy'n cynhyrchu shampŵ a deunyddiau steilio gwallt, yn Nhonysguboriau yn 1973.

Mae'r cwmni wedi rhoi gwybod i'r gweithwyr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori fyddai'n golygu bod mwyafrif y gwaith yn symud dramor.

Dywedodd y cwmni fod 70% o ddeunydd crai erbyn hyn yn cael eu mewnforio o dramor a bod y costau trafnidiaeth yn "annerbyniol".

"O safbwynt economaidd ac amgylcheddol, does dim diben i L'Oreal gadw'r ffatri yn Nhonysguboriau."

Mae Fareva wedi dweud eu bod nhw am ddatblygu'r safle o fewn ychydig o flynyddoedd.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^