Bydd y clwb yn symud i stadiwm newydd yn ardal Pemberton
|
Bu gwasanaeth coffa yn Llanelli nos Fawrth wrth i Barc y Strade baratoi i gau ei glwydi am y tro olaf.
Bydd y gêm olaf nos Wener wrth i'r Sgarlets wynebu Bryste yng Nghwpan yr EDF.
Mae'r clwb yn symud i stadiwm newydd, Parc y Scarlets, yn ardal Pemberton.
Dechreuodd y clwb chwarae yn y Strade yn 1879 ac mae'r maes wedi bod ar y safle presennol ers 1904.
Yn y gwasanaeth ar Barc y Strade nos Fawrth darllenwyd enwau'r rhai y mae eu llwch wedi eu gwasgaru ar y cae.
Y Parchedig Eldon Phillips arweiniodd y gwasanaeth a bu teyrngedau gan lywydd rhanbarth y Sgarlets, y cyn-chwaraewr Derek Quinnell.
Ffefrynnau
Ar ddechrau'r gwasanaeth fe ganodd Côr y Sgarlets nifer o ffefrynnau, gan gynnwys Sosban Fach a Wele'n Sefyll rhwng y Myrtwydd.
Cododd Mr Quinnell dywarchen fydd yn cael ei gludo i Barc y Scarlets.
Fe fydd yr hen gae yn cael ei werthu ar ôl y gêm olaf, yn cael ei gynnig am £75,000 i'r cynnig cyntaf neu ei rannu yn wyth rhan ar gost o £10,000 yr un.
Bydd rhaid i'r ceisiadau am y cynigion uchod gael eu cyflwyno erbyn 5pm ar Dachwedd 7.