BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 19 Hydref 2008, 13:33 GMT 14:33 UK
Tai fforddiadwy: Ffrae pwerau

Tai
Mae addewid i ddarparu 6,500 yn fwy o dai fforddiadwy erbyn 2011
Mae ffrae yn corddi rhwng Llywodraeth y Cynulliad ac aelodau seneddol ynghylch pwerau dros dai fforddiadwy yng Nghymru.

Ac mae Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis Thomas, wedi ysgrifennu at ysgrifennydd Cymru Paul Murphy i fynegi ei bryderon am "deimladau gwrth-ddatganoli" y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.

Yn ôl yr aelodau seneddol, dylai'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gan Lywodraeth y Cynulliad gael ei ail lunio er mwyn ei wneud yn fwy cyfyng.

Mae Llywodraeth y Cynulliad am gael yr hawl i atal yr opsiwn hawl-i-brynu sydd gan denantiaid cyngor, gan ddadlau y bydd hyn yn golygu y bydd mwy o dai ar gael.

Ond mae'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn cynnwys yr awdurdod i fynd ymhellach a chael gwared ar yr opsiwn hawl-i-brynu.

Dywed Llywodraeth y Cynulliad nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad o gael gwared ar yr opsiwn hawl-i-brynu ond mae'r ASau yn credu na ddylai'r gorchymyn fynd rhagddo heb ei ail lunio.

Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas wrth y BBC: "Mae hyn yn fater cyfansoddiadol" ac yn "gynnyrch teimladau gwrth-ddatganoli" yr ASau.

'Siomedig'

Dywedodd y dirprwy weinidog dros dai Jocelyn Davies AC, ei bod yn "siomedig ei bod yn ymddangos bod y pwyllgor yn ceisio cyfyngu ar y trosglwyddiad o rymoedd".

Mae addewid yng nghytundeb Cymru'n Un y llywodraeth glymblaid i ddarparu 6,500 yn fwy o dai fforddiadwy erbyn 2011.



HEFYD
Tai fforddiadwy: Cynlluniau
07 Gorff 08 |  Newyddion
Cefn gwlad: 'Colli cenhedlaeth'
04 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^