Bu farw Emyr Currie-Jones ar Hydref 13 yn 91 oed.
Fe oedd cadeirydd cynta Cyngor Sir De Morgannwg (1973-5) ac roedd yn llywydd anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
Ei wraig oedd y ddiweddar Mary Catherine (née Jones).
Fe fydd yr angladd yn Eglwys Minny Street, Caerdydd, ar Hydref 22 am 12.15pm ac yn Amlosgfa'r Ddraenen Wen.
Fe oedd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1978.
Roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymreig y Blaid Lafur.
Cafodd ei eni yng Nghaernarfon ar Ionawr 17, 1917, a'i rieni oedd Grace Currie a Lewis Jones.
Aeth i Ysgol y Cyngor, Caernarfon ac Ysgol Sir Caernarfon cyn graddio yn y Gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Achub y plant
Wedi gwasanaeth gwirfoddol yn y Dwyrain Canol a'r Eidal gyda mudiad Cronfa Achub y Plant ac UNRRA fe ddaeth yn gyfreithiwr preifat.
Fe ddaeth yn Gyfreithiwr Erlynol Caerdydd yn 1949 a chafodd y CBE yn 1976.
Roedd yn Aelod o Gyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Sir De Morgannwg.
Ac roedd yn aelod o Gyd-bwyllgor Addysg Cymru, Llys a Chyngor y Brifysgol a Chyngor yr Iaith Gymraeg,
Ar un adeg roedd yn ddirpwry grwner Dwyrain Morgannwg.