BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 11 Hydref 2008, 11:00 GMT 12:00 UK
Galw am ambiwlans - yn America

Canolfan ambiwlans
Dywedodd y dyn fod angen ambiwlans - yn Nevada
Pan atebodd teleffonydd alwad brys yng Nghymru dywedodd dyn fod ei gariad â phoenau mawr - yn Nevada 5,000 o filltiroedd i ffwrdd.

Roedd Kerry Burrows, 47 oed, ar ddyletswydd yn y ganolfan ambiwlans ym Mhont-y-pŵl.

Dywedodd y dyn oedd yn y wlad hon ar y pryd ei fod newydd siarad â'i gariad beichiog ar y we a'i bod hi angen ambiwlans.

Doedd hi ddim yn gallu ffonio'r gwasanaethau brys yn yr Unol Daleithiau. Felly ffoniodd y dyn 999 yng Nghymru.

"Ces i sioc," meddai Kerry. "Roedd y sefyllfa'n gymhleth.

"Wnes i feddwl 'Beth ddiawl alla i 'i neud?'"

Pan lwyddodd i gysylltu ag ysbyty yn Nevada roedd yr ysbyty, meddai, yn meddwl bod yr alwad yn ffug.

'Tro cynta'

Wedyn fe gysyllton nhw â Heddlu Efrog Newydd a roddodd rif gwasanaeth ambiwlans yn Nevada.

"Hwn oedd y tro cynta i ni gael cais i helpu claf yn yr Unol Daleithiau," meddai Kerry.

"Roedd yn brofiad hyfryd, helpu rhywun oedd mor bell i ffwrdd."




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^