Arwydd: 'Yn anfon y neges anghywir'
Mae arwydd siop sydd mewn cyflwr truenus yn cael ei beintio oherwydd yr angen i "wella delwedd tref glan y môr".
Eisoes mae nifer o bobl wedi cwyno am yr arwydd uwchben y siop wag yn Y Rhyl.
Mae'r arwydd, "Rhyl's biggest receiver of stolen goods", wedi bod uwchben yr adeilad ar gornel Aquarium Street ac Abbey Street ers blynyddoedd.
Yr AS lleol, Chris Ruane, sy wedi peintio dros yr arwydd ddydd Gwener - gyda help cynghorwyr ward Gorllewin Y Rhyl, Ian Armstrong a Joan Butterfield.
'Digon yw digon'
Ward Gorllewin Y Rhyl oedd ar frig rhestr Mynegai Amddifadedd Cymru 2008 ym mis Gorffennaf ac roedd dwy ward arall o'r dref yn y 10 uchaf.
AS Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, yn peintio'r arwydd
|
"Digon yw digon," meddai Mr Ruane cyn peintio. "Mae'r enw ar yr arwydd yn anfon y neges anghywir am y dref.
"Allwn ni ddim derbyn hyn ragor ... fe fydda i allan gydag ysgol a phaent i ddileu'r geiriau."
Ers blynyddoedd mae amryw o gynlluniau wedi bod i adfywio'r dref o ran arian cyhoeddus a phreifat.
Mae'r rhain yn cynnwys adfywio harbwr y dref a chynllyn Ocean Plaza.