Archesgob Cymru Barry Morgan gyda'r Hybarch Andrew John
|
Yr Hybarch Andrew John gafodd ei enwi i fod Esgob Etholedig Bangor.
Fe fydd Mr John, 44 oed, yn olynu'r Gwir Barchedig Anthony Crockett a fu farw ym mis Mehefin.
Fo fydd 81fed Esgob Bangor ac fe fydd yn gwasanaethu ardal sy'n ymestyn o Gaergybi i Lanidloes.
Mae Mr John yn Archddiacon Ceredigion ac yn swyddog eciwmenaidd o fewn Esgobaeth Tyddewi.
Fe fydd gan Mr John 28 niwrnod i dderbyn y swydd.
Cafodd drws yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor ei gau ddydd Mawrth wrth i Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru gyfarfod i ethol esgob newydd.
Offeiriad
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan y coleg ar drydydd diwrnod, a diwrnod olaf, y cyfarfod.
Cafodd Mr John ei addysgu ym Mhrifysgol Cymru a Choleg Sant Ioan, Nottingham.
Cafodd ei ordeinio yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn 1990.
Bu'n gurad Aberteifi gyda'r Mwnt a'r Ferwig yn Esgobaeth Tyddewi (1989-91) ac Aberystwyth (1991-92).
Roedd yn Ficer Tîm Aberystwyth (1992-99) ac yn Ficer Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth (1999-2006).
Ar hyn o bryd mae'n Ficer Pencarreg a Llanycrwys ac mae'n Archddiacon Aberteifi ers 2006.