BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Hydref 2008, 13:18 GMT 14:18 UK
Arian cynghorau yng Ngwlad yr Iâ

Banc Landsbankinn
Landsbanki oedd perchennog banc Icesave

Mae wyth o gynghorau Cymru a thri o awdurdodau heddlu Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnau mewn banciau yng Ngwlad yr Iâ.

Mae'r banciau wedi cael eu rhoi yn nwylo'r derbynwyr.

Yn ôl gwaith ymchwil gan raglen Dragon's Eye BBC Cymru mae dros £66 miliwn o arian cyrff cyhoeddus yng nghoffrau Landsbanki, ail fanc mwyaf Gwlad yr Iâ, a sefydliadau ariannol eraill.

Mae arweinwyr y cynghorau wedi galw am gyfarfod brys gyda'r Canghellor Alistair Darling.

Eisoes mae Llywodraeth San Steffan wedi rhewi holl asedau Landsbanki ym Mhrydain.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi buddsoddi £20 miliwn a Chyngor Caerffili wedi buddsoddi £15 miliwn.

Dywed Awdurdod Heddlu'r De eu bod wedi buddsoddi £7miliwn tra bod Awdurdod Heddlu Dyfed Powys wedi buddsoddi £2 miliwn ac Awdurdod Heddlu Gwent wedi buddsoddi £1 miliwn.

BUDDOSDDIADAU
Castell-nedd Port Talbot - £20 miliwn
Caerffili - £15 miliwn
Ceredigion - £5.4 miliwn
Powys - £4 miliwn
Gwynedd £4 miliwn
Sir y Fflint - £3.7 miliwn
Rhondda Cynon Taf - £3 miliwn
Mynwy £1.2m

Awdurdod Heddlu De Cymru - £7 miliwn
Awdurdod Heddlu Dyfed Powys - £2 miliwn
Awdurdod Heddlu Gwent - £1 miliwn

Dydd Mercher fe wnaeth y Canghellor addo iawndal i unigolion sydd wedi buddsoddi arian gyda grŵp Icesave.

Ond dyw hi ddim yn eglur beth fydd ffawd yr awdurdodau lleol a'r awdurdodau heddlu.

Dywedodd John Healey, Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am lywodraeth leol yn Lloegr, na fyddai'n bosib trin cynghorau yn yr un modd ac unigolion.

Ychwanegodd y bydd y Llywodraeth yn cwrdd ag arweinwyr y cynghorau ddydd Iau er mwyn trafod y sefyllfa.

Daw'r cyhoeddiadau ar ôl i Lywodraeth Gwlad yr Iâ gymryd rheolaeth o'r cwmni oedd yn rheoli'r banc ar y we, Icesave, yn gynharach yr wythnos yma.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili fod yr arian wedi ei fuddsoddi dros gyfnod o dri mis.

Ychwanegodd na fyddai'r sefyllfa yn cael unrhyw effaith ar y cyngor yn y tymor byr.

"Gwnaed y buddsoddiad ar ôl derbyn cyngor ariannol annibynnol ac ar ôl dilyn canllawiau pendant sydd wedi eu gosod ar ein cyfer," meddai'r llefarydd.

"Mae arian yn cael ei fuddsoddi mewn nifer o sefydliadau ariannol er mwyn lleihau'r elfen o risg.

"Mae anawsterau sy'n wynebu unrhyw gyngor wedi codi oherwydd amgylchiadau gwbl eithriadol."

'Pryder'

Mae 11 o'r cynghorau - Abertawe, Blaenau Gwent, Caerfyrddin, Casnewydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Benfro, Merthyr Tudful, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn - wedi dweud nad ydyn nhw wedi buddsoddi yn y banc.

Gwefan Icesave
Roedd 300,000 o gwsmeriaid o Brydain wedi buddsoddi yn Icesave

Mae cynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr wedi gwrthod rhoi gwybodaeth.

Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol, sy'n cynrychioli 400 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr, fod angen i Lywodraeth y DU ddiogelu arian sydd wedi ei fuddsoddi gan y cynghorau.

Yn ôl y Gymdeithas mae awdurdodau wedi buddsoddi'r arian yn unol â chanllawiau manwl ar ôl derbyn cyngor annibynnol ond ychwanegodd nad yw'n disgwyl y bydd 'na broblemau yn y tymor byr gan y byddai buddsoddiadau wedi eu "gwasgaru er mwyn sicrhau nad oed yna ormod o risg i'r trethdalwr".

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y cynghorau yn "bryderus" am ddiogelwch y buddsoddiadau a'i bod yn rhy gynnar i ddweud a ydyn nhw mewn risg a'i pheidio.

Roedd banciau Gwlad yr Iâ yn cynnig graddfeydd llog hynod o gystadleuol.

'Sicrwydd'

Mae tua 300,000 o unigolion o Brydain wedi buddsoddi eu harian yn y banc ar y we Icesave.

Dywed llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol yng Nghymru, Nick Ramsay AC, fod angen sicrhau nad yw arian y cynghorau mewn unrhyw beryg - a hyn er lles pawb.

Galwodd Dr Dai Lloyd, llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, ar Lywodraeth Prydain i roi sicrwydd i gynghorau na fydden nhw'n colli unrhyw arian.

Daeth galwad tebyg gan y Democratiaid Rhyddfrydol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^