BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Hydref 2008, 05:59 GMT 06:59 UK
Dici‚u: Datblygu brechlyn

Bacteria dici‚u
Mae'r clefyd yn lladd 1.7 miliwn y flwyddyn

Mae gwyddonwyr yng Nghymru a chydweithwyr yn Rwsia yn anelu at ddatblygu brechlyn yn erbyn y dici‚u.

Ers 10 mlynedd mae Prifysgol Aberystwyth ac Academi Gwyddorau Rwsia wedi bod yn cydweithio.

Yn y 1990au fe wnaeth gwyddonwyr ddarganfod protein newydd mewn bodau dynol.

Ar hyn o bryd mae'r gwyddonwyr yn ceisio datblygu'r protein fel y gall reoli'r bacteria sy'n achosi'r clefyd.

Fe fydd treialon clinigol yn dechrau yn 2009 ond mae elusen wedi dweud na fydd y brechlyn ar gael am 10 mlynedd.

Mae'r clefyd yn lladd 1.7 miliwn y flwyddyn ac mae rhai'n poeni bod y bacteria yn gallu gwrthsefyll cyffuriau.

Rhannol effeithiol

Fe gafodd yr unig frechlyn Bacille Calmette-Guťrin neu BCG ei greu yn 1921 ond mae'n rhannol effeithiol.

Yr Athro Mike Young o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig sy'n arwain y tÓm ymchwil yn y canolbarth.

"Mae'r driniaeth yn gallu para am fwy na chwe mis ac weithiau mae bacteria o hyd yn y corff...

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd ein brechlyn ni yn y pen draw'n atal heintiau parhaol yn y lle cynta."

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r brechlyn yn "helpu cymaint o ddioddefwyr ‚ phosib".

Mae cadeirydd elusen Rhybudd Dici‚u, Paul Sommerfeld, wedi dweud bod datblygu'r brechlyn yn "gadarnhaol".

"Ond mae'r cyfnod profi yn un hir, yn golygu tri chyfnod o leia ac nid ydyn ni'n disgwyl brechlyn newydd am o leia 10 mlynedd."



HEFYD
Dici‚u: Atgofion cleifion ysbyty
08 Medi 07 |  Newyddion
Profion dici‚u i ddisgyblion
10 Gorff 07 |  Newyddion
Profion dici‚u ar ben
12 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^