Mae Nick Bourne wedi ymddiheuro am rannau o'r ddogfen
|
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad Nick Bourne wedi ymddiheuro am ganiatáu dogfen oedd yn ymosod yn bersonol ar Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.
Dywedodd ei fod yn siomedig oherwydd rhannau o'r ddogfen oedd yn beirniadu dillad a gwallt Mr Morgan ac yn cyfeirio ato fel clown.
Ar raglen The Politics Show ar BBC Cymru fe ymddiheurodd Mr Bourne i'w staff am awgrymu nad oedd wedi cymeradwyo'r ddogfen.
Roedd y ddogfen 39 tudalen wedi cynddeiriogi aelodau blaenllaw yn ei blaid.
Brysiog
Yr wythnos ddiwetha ar raglen radio BBC Radio Wales fe ddywedodd Mr Bourne fod y ddogfen wedi mynd yn "rhy bell".
Roedd wedi dweud bod y ddogfen wedi cael ei chyhoeddi gan y blaid nid ganddo fe'n bersonol.
Ar raglen y Politics Show dywedodd Mr Bourne ei fod wedi darllen y ddogfen yn frysiog.
'Ar fai'
Dywedodd ei fod yn paratoi araith ar gyfer cynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham yn ogystal â gwneud gwaith yn ymwneud â materion y cynulliad pan ddarllenodd y ddogfen.
Dim ond tua hanner dwsin o baragraffau, meddai, yr oedd yn anghytuno â nhw.
Fe ymddiheurodd i swyddogion y wasg ei blaid am 'unrhyw embaras" yr oedd wedi achosi.
"Y fi oedd ar fai," meddai.
"Mae yna tua 450 o baragraffau (yn y ddogfen) a dim ond tua chwe pharagraff y byddwn i wedi eu newid.
"Dwi am ymddiheuro am roi'r argraff ar y radio nad oeddwn wedi gweld y ddogfen."
Mae Mr Bourne wedi ymddiheuro i Mr Morgan.
Mewn ymateb i gwestiwn ar y rhaglen deledu dywedodd fod ei swydd fel arweinydd ei blaid yn gwbl ddiogel.