BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 5 Hydref 2008, 10:54 GMT 11:54 UK
Gweinidog newydd i Gymru

Wayne David AS
Bydd Wayne David yn olynu Huw Irranca Davies yn Swyddfa Cymru
Mae Wayne David aelod seneddol Caerffili wedi ei benodi yn weinidog yn Swyddfa Cymru.

Daw'r penodiad yn sgil newidiadau i'r Cabinet a wnaed gan y Prif Weinidog Gordon Brown.

Mae Paul Murphy aelod seneddol Torfaen yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru.

Ond bydd Huw Irranca Davies, AS Ogwr, yn gadael swyddfa Cymru i fod yn weinidog yn adran amaeth DEFRA.

Mae Mr David, sy'n 51 oed, wedi bod yn aelod seneddol ers 2001.

Yn 2006 roedd Mr David yn un saith is-weinidog y llywodraeth wnaeth ymddiswyddo oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn dyfodol y prif weinidog Tony Blair.

Arwyddodd y saith lythyr yn galw ar y prif weinidog i ddweud yn union pryd y byddai'n rhoi'r gorau i'r swydd.

  • Fel rhan o'r newidiadau yn y cabinet mae aelod seneddol Gorllewin Caerdydd Kevin Brennan, oedd yn weinidog plant, wedi ei ddyrchafu i rol yn Swyddfa'r Cabinet.




    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^