Cafodd Hyfrydle ei agor yn 2007 gyda'r cyngor yn penderfynu ei gau yn 2008.
|
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ei feirniadu oherwydd y modd yr agorodd a chau cartre preswyl i blant awtistig.
Fe agorodd cartre Hyfrydle y llynedd ond cafodd ei gau ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y cyngor ei fod yn ddrud i'w gynnal ac yn wynebu cystadleuaeth canolfan breifat yn yr ardal.
Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac arolygwyr Estyn wedi dweud bod y cynllun i sefydlu'r cartre wedi'i reoli'n wael, bod 'na ddiffyg cyfathrebu a diffyg cydweithio o fewn yr awdurdod lleol.
Ond roedd yr adroddiad yn dweud fod penderfyniad y cyngor i arolygu'r sefyllfa yn un priodol.
Dywedodd y cyngor fod "gwersi wedi cael eu dysgu" a bod newidiadau wedi cael eu gweithredu.
Y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, alwodd am ymchwiliad i benderfyniad Sir Ddinbych i gau'r ganolfan.
Dadl y cyngor oedd y byddai'n costio £500,000 y flwyddyn i gadw'r ganolfan ar agor.