Y cyngor sir am gau ysgolion gwledig
|
Mae Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i beidio â chau mwy o ysgolion oherwydd canllawiau Llywodraeth y Cynulliad.
Cyfeirio y mae'r canllawiau at ffedereiddio ysgolion bach.
Mae disgwyl i'r canllawiau, sy'n golygu y gallai llywodraethwyr ysgol gael mwy o rym i sefydlu ysgolion ffederal mewn ardaloedd gwledig, gael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2009.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y gallai hyn olygu y bydd modd i fwy o ysgolion gwledig aros ar agor yn y dyfodol.
Ond mae Cyngor Caerfyrddin yn cyhuddo'r Gymdeithas o gamddehongli canllawiau Llywodraeth y Cynulliad.
Maen nhw'n dweud fod cynlluniau'r cyngor yn mynd i'r afael a phroblemau gwella cyflwr adeiladau a gwella'r ddarpariaeth addysg yn gyffredinol.
Bygythiad o gau
Cafodd fersiwn drafft o'r canllawiau eu cyhoeddi ddechrau Medi cyn ceisio barn y cyhoedd.
Mae'r mudiad iaith wedi dweud eu bod yn annog llywodraethwyr i ymateb i'r papur ymgynghorol sy'n dangos sut y gallai ysgolion dan fygythiad o gau gydweithio i greu ffederasiwn heb golli eu hannibyniaeth.
Mewn cynhadledd newyddion fore Llun fe alwodd y mudiad iaith ar y cyngor sir i ddatgan a oedden nhw am fwrw ymlaen â'u cynlluniau i gau nifer o ysgolion.
Dywedodd eu llefarydd addysg, Ffred Ffransis: " Yn lle disgwyl cnoc ar y drws gan y cyngor, dylai llywodraethwyr ysgolion gymryd y mater i'w dwylo eu hunain - cysylltu ag ysgolion cyfagos a llunio eu cynlluniau eu hunain ar gyfer dyfodol addysg yn eu hardal."
"Am y tro cyntaf, byddai'r rheoliadau newydd hyn yn caniatáu i lywodraethwyr arwain y ffordd."
Ystyried pob opsiwn
Yn ôl llefarydd Llywodraeth y Cynulliad, fe ddylai awdurdod lleol fod wedi ystyried pob opsiwn posib cyn cau ysgol - a rhoi rheswm am beidio â dewis opsiynau eraill.
Roedd y rheoliadau drafft am ffedereiddio ysgolion, meddai, yn cynnig dewis arall ar wahân i gau ysgol ond fe fyddai gan yr awdurdod lleol yr hawl i benderfynu a fyddai'n opsiwn realistig.
Wrth ymateb i honiadau'r mudiad iaith, dywedodd y cyngor sir y byddai'r Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant yn ystyried y rheoliadau newydd.
Yn ôl y cynghorydd Ieuan Jones, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor, mae'r Cyngor a strategaeth bendant i wella a moderneiddio addysg y sir.
"Mae'n ymddangos y byddai'n well gan Gymdeithas yr Iaith i blant gael eu haddysgu mewn adeiladau hen ffasiwn ac anaddas, yn hytrach na rhai o'r rhai mwyaf modern yn y wlad.
"Rydym wedi ymroi i wella darpariaeth addysg a dyw'r dadleuon yma yn gwneud dim o ran gwlla safon addysg, na chwaith mynd i'r afael a'r broblem o adeiladau anaddas.
"Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth y Cynulliad wrth daclo'r broblem o seddi gwag mewn ysgolion."