BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 28 Medi 2008, 08:41 GMT 09:41 UK
Dewin Cymreig: Arddangos llun

y darlun o Lloyd George
Mae'r llun yn dyddio'n l i 1936

Mae'r cyhoedd yn gallu gweld llun o'r cyn Brif Weinidog David Lloyd George gafodd ei wneud yng nghanol y tridegau.

Prin y mae llun yr arlunydd o Gymro, Vincent Evans, wedi cael ei arddangos ers 1936, naw mlynedd cyn marw'r gwleidydd.

Mae ar fenthyg i Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Ganed yr arlunydd yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe.

Aeth i weithio yn y pwll glo yn 13 oed a bu'n lwr am 10 mlynedd cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Celf Abertawe.

Gydag Evan Walters ac Archie Rhys Griffiths roedd yn aelod o fudiad o arlunwyr o dde Cymru geisiodd bortreadu cymunedau diwydiannol.

'Gonest'

Dywedodd Nest Thomas, Swyddog Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd: "Rydym yn falch iawn o arddangos y darlun arbennig o Lloyd George yn yr amgueddfa sy'n dwyn ei enw.

"Mae'n fraint cael benthyg y darlun fel y gall trigolion lleol lle magwyd y cyn-Brif Weinidog ac ymwelwyr gael y cyfle i fwynhau'r darlun.

"Mae'n ddarlun cyfoes a gonest o Lloyd George a phrin y mae'r cyhoedd wedi ei weld ers iddo gael ei beintio yn 1936."



HEFYD
Lloyd George: 'Dim para' heddiw
26 Maw 05 |  Newyddion
Adfer gardd Lloyd George
02 Medi 04 |  Newyddion
Cyflwyno dyddiadur Lloyd George
23 Awst 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^