BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 21 Medi 2008, 09:00 GMT 10:00 UK
Cantores yn ennill ysgoloriaeth

Rhian Lois
Rhian Lois enillodd yr ysgoloriaeth eleni

Enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru eleni ydi Rhian Lois Evans o Bont-rhyd-y-groes ger Tregaron.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal nos Sadwrn yn Theatr Stiwt, Rhosllanerchrugog.

Roedd pump arall yn cystadlu am yr ysgoloriaeth sy'n werth 4,000.

Roedd bob un o'r chwech yn enillwyr y prif gystadlaethau o dan 25 oed yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghonwy eleni.

Rhian Lois oedd enillydd y brif wobr yn y gystadleuaeth Unawd Unigol.

Mae hi ar ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Ei gobaith ar l graddio ydi dilyn cwrs l-radd yn Llundain.

Canu clasurol

"Rwy'n teimlo mor hapus, ac yn methu credu'r canlyniad," meddai Rhian Lois ar l y gystadleuaeth.

Y CHWECH
Rhian Lois Evans o Bont-rhyd-y-groes (enillydd yr Unawd 19-25 oed)
Elliw Mai o Riwlas, Bangor (enillydd yr Alaw Werin 19-25 oed a'r Llefaru Unigol 19 -25 oed)
Glesni Fflur Evans o'r Bala (enillydd yr Unawd allan o Sioe Gerdd 19-25 oed a'r Unawd Cerdd Dant 19-25 oed)
Elen Gwenllan o Gaernarfon (enillydd y Cyflwyniad Theatrig 19-25 oed)
Mared Emlyn o Eglwysbach, Conwy (enillydd yr Unawd Offerynnol 19-25 oed)
Tudur Phillips o Gaerfyrddin (enillydd y Ddawns Werin Unigol 15-25 oed)

"Mae hi wedi bod yn noson ardderchog ac yn brofiad bythgofiadwy.

"Er eu bod wedi bod yn ddau ddiwrnod blinedig rwyf wedi mwynhau pob eiliad.

"Rwyf am ddefnyddio'r arian i astudio cwrs l-radd yn unai Llundain neu Gaerdydd gan arbenigo mewn canu clasurol."

Dywedodd Aled Sin, Cyfarwyddwr Eisteddfod a'r Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru, eu bod wedi cael noson gwerth chweil.

"Cawsom wledd o dalent ac roedd y safon yn eithriadol o uchel yma yn Theatr y Stiwt, Rhosllanerchrugog.

"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Bryn Terfel am ei gefnogaeth ddiddiwedd i'r Ysgoloriaeth arbennig hon bob blwyddyn.

"Bydd y wobr ariannol o fudd mawr i'r enillydd ar ddechrau ei gyrfa.

"Dymunaf bob llwyddiant i Rhian Lois Evans i'r dyfodol.''

Y beirniaid eleni oedd y cynhyrchydd teledu Sin Teifi, y pianydd enwog Llŷr Williams, y cerddor Brian Hughes, y gantores Leah Owen, y cyfarwyddwr theatrig Peter Davies a'r arbenigwraig ddawns Prydwen Elfed-Owens.



HEFYD
Chwech am ennill ysgoloriaeth
17 Medi 08 |  Newyddion
Trefnwyr yn dathlu llwyddiant
31 Mai 08 |  Newyddion
4,000 i Manon
23 Medi 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^