BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 15 Medi 2008, 17:03 GMT 18:03 UK
Tywysog ar gwrs arbennig

Tywysog William
Fe ddysgodd hedfan y llynedd

Fe fydd Tywysog William yn cael ei hyfforddi i fod yn beilot llawn amser yn nhm chwilio ac achub y Llu Awyr.

Fe gadarnhaodd Clarence House hyn ddydd Llun.

Yn gynharach eleni fe fu'n cael ei hyfforddi i hedfan yn y Llu Awyr.

Mae'r Tywysog yn swyddog yng Nghatrawd Ceffylwyr y Gosgordd ac mae wedi treulio amser yn y Fyddin a'r Llynges.

Dywedodd ei fod am adeiladu ar ei brofiadau "yn enwedig o gofio nad oeddwn i ddim yn gallu mynd i Afghanistan eleni".

'Holl agweddau'

"Mae wedi bod yn anrhydedd treulio amser ers blwyddyn yn deall holl agweddau ac anghenion y Lluoedd Arfog," meddai.

Ym mis Ebrill cafodd yr hawl i hedfan ar l gorffen cwrs hyfforddi pedwar mis.

Does 'na ddim manylion am leoliad hyfforddi'r Tywysog ond, fel arfer, mae swyddogion yn treulio rhwng 6 a 11 mis yn Shawbury, Sir Amwythig, cyn naw mis yn Nghanolfan Y Fali i orffen yr hyfforddiant.

Fe gafodd bythefnos o brofiad gwaith gyda'r Llu Awyr yn Y Fali ym mis Rhagfyr 2005.

Yn ystod y cyfnod bu'n rhan o ymarfer achub rhywun oddi ar fynydd, yn abseilio a chario rhywun i lawr yn saff o Fynydd Caergybi.

Fe fydd yn dechrau cael ei hyfforddi ym mis Ionawr wrth barhau 'i ddyletswyddau swyddogol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^