BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Medi 2008, 14:57 GMT 15:57 UK
AS Conwy Betty Williams i ymddeol

Betty Williams
Ymgeisiodd Betty Williams am y sedd gyntaf 21 mlynedd l

Cyhoeddodd AS Llafur Conwy Betty Williams y bydd yn ymddeol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Fe wnaeth hi ddatgelu'r penderfyniad mewn cyfarfod o'r blaid yn lleol yn Llanfairfechan nos Fercher.

Mae hi wedi bod yn AS am 11 mlynedd.

Dywedodd Mrs Williams, 64 oed, ei bod wedi bod yn anrhydedd cynrychioli'r etholaeth ac mae hi'n ddiolchgar am gefnogaeth y bobol leol.

Roedd hi'n un o'r aelodau newydd ym muddugoliaeth ysgubol Tony Blair yn 1997.

"Mae'n amser i ystyried y dyfodol a newid y pwysau gwaith sy'n fy mywyd am weithgareddau eraill," meddai mewn datganiad.

'Bonws'

"Dwi wedi penderfynu cyhoeddi fy ymddeoliad rwan, fel bod gan y Blaid Lafur ddigon o amser i ddewis ymgeisydd newydd a fydd yn ymgeisio yn yr etholaeth yn yr etholiad cyffredinol nesaf."

Fe wnaeth Mrs Williams ymgeisio am y sedd y tro cyntaf yn 1987.

Ychwanegodd bod y ffaith mai hi oedd y ddynes gyntaf i gynrychioli'r ardal yn "fonws" ychwanegol.

Fe wnaeth hi annog y llywodraeth i ganolbwyntio ar helpu'r rhai sy'n llai breintiedig, y "sl a'r anabl" sy'n ceisio ymdopi gyda biliau bwyd a gwres.

Talodd deyrnged i Gordon Brown gan ddweud nad oedd 'na neb y byddai'n ymddiried mwy ynddo "i'n harwain drwy'r amser anodd".

Fe wnaeth feirniadu cyn-weinidogion fel Charles Clarke, sydd wedi ymosod ar berfformiad y prif weinidog.

"Does gen i ddim parch iddyn nhw, yn enwedig cyn-weinidogion, sy'n feirniadol heb atebion cadarnhaol."

Ond fe wnaeth hi gyfadde bod rhaid i'r llywodraeth wneud mwy "i gydweithio gyda phryderon pobl a llunio rhaglen i leihau'r effeithiau anodd sydd o'n blaen".

Cafodd ei datganiad ei gyhoeddi wrth i Mr Brown gyhoeddi pecyn o fesurau i gynorthwyo'r rhai sy'n wynebu anawsterau gyda'u biliau ynni.



HEFYD
Yr Orsedd yn anrhydeddu
28 Meh 06 |  Newyddion
Pedair plaid yn y ras yng Nghonwy
04 Mai 05 |  Newyddion
Niwro: Mwy'n poeni am gynigion
10 Awst 07 |  Newyddion
ASau yn gwahardd hela
16 Medi 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^