Dr Lyn Evans sy'n arwain y tim o wyddonwyr yn Genefa
|
Mae Cymro yn arwain tīm o wyddonwyr yn y Swistir sy'n cynnal arbrawf sy'n cael ei ddisgrifio fel yr arbrawf mwyaf yn y byd.
Nod yr arbrawf yng nghanolfan ymchwil CERN ger Genefa yw ceisio datgelu cyfrinachau sut y cafodd y bydysawd ei greu biliynau o flynyddau yn ol.
Mae'r prosiect dan arweiniad y Dr Lyn Evans, sy'n wreiddiol o Aberdār.
Bydd peiriant sydd wedi costio £5 biliwn yn hyrddio atomau at ei gilydd ar gyflymder anhygoel gyda'r nod o geisio ail-greu'r cyfnod wedi'r hyn ddigwyddodd pan ehangodd y bydysawd.
Mae 4,600 o staff yn gweithio ar y prosiect sy'n fenter ar y cyd rhwng 20 o wledydd Ewrop.
Mae'r gwaith adeiladu wedi cymryd 14 o flynyddoedd.
Dywedodd Dr Lyn Evans, 63, mai'r gobaith yw darganfod mwy am sut y cafodd y bydysawd ei greu.
"Ry'n ni'n chwilio am yr atebion i gwestiynau elfennol y byd ac, yn aml iawn, i gael yr atebion am y petha lleiaf rhaid cael y peiriannau mwya."
Mae o wedi wfftio honiadau gan rai y gallai'r arbrawf arwain at drychineb a hyd yn oed ddiwedd y byd.
"Peidiwch ā phoeni - bydd yna ddim tsunami ym Mae Caerdydd.
"Mae'r honiadau yn nonsens pur."