Mae diswgyl i'r papurau ddod i ben ymhen y mis
|
Mae cwmni Trinity Mirror am roi'r gorau i gyhoeddi pedwar papur newydd wythnosol yn y gogledd.
Ymhlith y papurau fydd yn dod i ben mae'r Rhyl and Prestatyn Visitor a'r Abergele Visitor.
Mae'r cwmni yn dweud bod y penderfyniad yn effeithio ar 30 o swyddi yng Nghymru a Lloegr ac maen nhw'n ymgynghori efo staff.
Dywed y cwmni eu bod wedi gwneud y penderfyniad ar ol cynnal arolwg o'u cyhoeddiadau a'u swyddfeydd yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
Papur di-dâl
Mae lle i gredu y gallai'r cyhoeddiadau ddod i ben ymhen mis.
Fe fydd Your Vale hefyd yn dod i ben gyda'r tri chyhoeddiad yn cael eu disodli gan bapur newydd di-dâl y Denbighshire Visitor.
Bydd Flintshire Buysell yn dod i ben a'r cynnwys yn cael ei integreiddio gyda'r Chester a Flintshire Chronicles.
Mae'r cwmni'n bwriadu cau naw o swyddfeydd gan gynnwys un yn Y Rhyl.
Fe fydd staff yno yn symud i'r brif swyddfa yng Nghyffordd Llandudno.
Yn ôl cyfarwyddwr rhanbarthol y cwmni, Sara Wilde, fe fydd y newidiadau'n ateb gofynion hysbysebwyr a darllenwyr mewn marchnad sy'n cynnig sawl her.
"Dydi gwneud penderfyniad a newidiadau fel yma ddim yn hawdd.
"Ond dwi'n credu bod y newidiadau yma yn cryfhau pwer ein cynnyrch yn y farchnad."
Ond mae'r cam yn newyddion drwg yn ôl Llion Iwan, darlithydd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor.
"Fe fydd yn rhaid i'r gohebwyr weithio o'r swyddfa ganolog, gweithio mwy dros y ffôn, yn anoddach teithio i weld pobl ac yn colli cysylltiad efo'r gymuned maen nhw'n gweithio efo hi.
"Fe fydd casglu straeon yn anoddach a llai yn prynu'r papur a'r cyfan yn datblygu fel caseg eira."
Dileu papurau
Mae'r Abergele Visitor yn gwasanaethu'r ardal ers degawdau ac mae'r Cynghorydd Richard Walters yn siomedig.
"Mae'r newyddion yn y papur wedi bod yn dirywio dros y cyfnod diweddar.
"Cymaint felly fel bod cyngor tref Abergele wedi penderfynu cael papur am ddim eu hunain i roi'r newyddion i'r bobl lleol."
Roedd Prif Weithredwr Trinity Mirror, Sly Bailey, wedi dweud bod angen arbed £20 miliwn.
Mae 'na son am streicio yng nghanolbarth Lloegr yn erbyn canoli'r gwaith yn Birmingham a Coventry, diswyddo dros 60 o bobl a gorfodi gweithwyr i ail-ymgeisio am eu swyddi presennol.
Mae 100 o swyddi yn y fantol yn Lerpwl hefyd yn sgil bwriad i gau'r argraffdy yno wedi 150 o flynyddoedd a symud y gwaith i Oldham.