Caiff cynghorau gosb ariannol os nad ydyn nhw'n cyrraedd targedau
|
Mae 'na ddau gyngor wedi clustnodi safle ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd.
Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Merthyr Tudful bod y safle yn mynd i "leihau" nifer y gwastraff bwyd sy'n cael ei roi ar y safleoedd tirlenwi.
Maen nhw'n dweud y gallai'r prosiect fod yn rhan o safle tirlenwi a chanolfan ailgylchu Bryn Pica ger Aberdâr.
Fe fydd rhestr fer o'r cwmnïau sydd wedi gwneud cais ar gyfer y gwaith yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Yn gynharach yn yr wythnos cyhoeddodd bod bob un o'r 22 cyngor yng Nghymru wedi cyrraedd targedau a osodwyd o ran nifer eu gwastraff bioddiraddadwy sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
Ond mae cynghorau wedi rhybuddio bod y targedau yn cael eu tynhau.
Peryglon
Os na fydd y cynghorau yn cyrraedd y targedau fe fydd 'na gosb ariannol.
Mae prosiect Cwm Yfory, cynllun ar y cyd rhwng Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, yn golygu y bydd y ddau awdurdod yn gallu ailgylchu mwy o wastraff bwyd a deunyddiau sydd ar ôl ar ôl ailgylchu.
Gall y gwastraff achosi peryglon petai'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi arferol.
Mae dros hanner cynghorau Cymru eisoes wedi dechrau neu yn bwriadu cynnig cynllun ailgylchu bwyd y flwyddyn nesaf.
Y ddau gyngor yma ydi rhai o'r cyntaf i gynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd.
Dywedodd Aled Roberts, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chadeirydd Craff am Wastraff, ei fod yn croesawu'r cynnig.
"Mae Cymru wedi dibynnu yn rhy hir ar y safleoedd tirlenwi ac mae angen ymdrin â gwastraff mewn ffordd fwy cynaliadwy ac yn fwy cyfeillgar tuag at yr amgylchedd," meddai.
"Mae angen buddsoddiad mewn amrywiaeth o adnoddau."
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi annog awdurdodau lleol i gyflwyno mwy o ailgylchu gwastraff bwyd ac wedi cynnig pecyn cymhorthdal.