Mae'r ŵyl wedi ei chynnal yn flynyddol ers 2004
|
Mae gŵyl gerddorol fach wedi ennill gwbor am fod yn ecogyfeillgar yr un pryd â gwyliau mwy fel Ynys Wydrin.
Bob mis Gorffennaf mae Gŵyl y Tloty yn Llanfyllin, Powys, yn denu 5,000 o bobl.
Hwn yw'r unig ddigwyddiad o'i fath yng Nghymru i gael Gwobr Gŵyl Werdd 2008, un o 19 drwy'r byd.
Cafodd yr ŵyl ei chanmol am ddefnyddio cyflenwyr lleol a thrydan o gyflenwad adnewyddol.
Yng ngwledydd Prydain cafodd 15 o wyliau wobr, tair yn Awstralia ac un yn America.
Dechreuodd Gŵyl y Tloty yn 2004 i gefnogi cynllun tymor hir i adnewyddu hen dloty o oes Fictorian yn Llanfyllin.
Eco-gyfeillgar
"Mae'r ŵyl yn rhoi blaenoriaeth i fasnachwyr lleol," meddai'r beirniaid.
"Does dim rhaid i gynnyrch deithio'n bell ac mae'n gwneud pob ymdrech i ailgylchu defnyddiau."
Roedd holiadur yn cyfeirio at reolaeth, trafnidiaeth, allyriadau carbon deuocsid, masnach deg, rheoli gwastraff ac ailgylchu, rheoli dŵr a llygredd sŵn.
Ymhlith yr enillwyr mae Ynys Wydrin, Gŵyl Werin Caergaint a Hard Rock Calling.
Roedd mwy na 177,000 yn Ynys Wydrin eleni.