BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Awst 2008, 09:18 GMT 10:18 UK
Her i ddau gr o Gymru

Ysgol Glanaethwy ar lwyfan y Faenol
Ysgol Glanaethwy ar lwyfan y Faenol ddydd Llun

Fe fydd dau gr o Gymru yn cystadlu yn rownd derfynol cystadlaeth Last Choir Standing y BBC.

Nos Sadwrn fe fydd Ysgol Glanaethwy o Fangor ac Only Men Aloud! o Gaerdydd yn canu eu gorau glas i fod y cr buddugol ar l wythnosau o gystadlu yn y gyfres ar BBC Un.

Y trydydd cr yn y rownd derfynol ydi cr Revelation o ddwyrain Llundain.

Y cyhoedd fydd yn cael dewis y cr buddugol drwy bleidleisiau ffn.

Cafodd 60 o gorau o bob cwr o Brydain eu gwahodd ar gyfer clyweliadau yn Llundain ar gyfer y gystadleuaeth gyda 15 yn cychwyn y daith ar y gyfres deledu.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r ddau gr o Gymru wedi bod yn teithio'n l a blaen i Lundain ar gyfer y rhaglen rhwng oriau o ymarferion.

'Anhygoel'

"Mae wedi bod yn gyfnod prysur a blinedig ond mae'r cr wedi mwynhau," meddai un o aelodau Only Men Aloud! Aled Williams

"Mae'r teimladau yn gymysg, llawn cyffro a nerfau cyn y rownd derfynol.

"Drwy'r gyfres rydym wedi cael cyfle i berfformio mewn gwyliau a chyngherddau arbennig ac mae cael mwy o sylw yn brofiad anhygoel."

Only Men Aloud!
Mae Only Men Aloud! hefyd yn y rownd derfynol

Dywedodd un o aelodau Ysgol Glanaethwy bod y cyfan wedi bod yn brofiad gwych a bod gweld y gefnogaeth yn rhywbeth anhygoel.

"Dyma'r peth 'da ni isio," meddai Sioned Mai, un o'r aelodau.

"'Dan ni'n gweithio'n galed a 'sa'n lyfli ennill i Cefin a Rhian sydd wedi bod yn gweithio'n galed."

Mae hi'n dipyn o flwyddyn i Ysgol Glanaethwy sy'n dathlu 18 mlynedd eleni.

Mae 'na 250 o aelodau yn yr ysgol a sefydlwyd gan Cefin a Rhian Roberts oedd yn teimlo nad oedd plant yr ardal yn cael hyfforddiant perfformio.

Mae plant o saith oed yn aelodau o'r ysgol ac mae 'na 50 o aelodau yn y cr sy'n cymryd rhan yn y gyfres deledu.

'Gwlad y gn'

Nos Lun diwethaf roedden nhw'n perfformio'n fyw ar lwyfan Gwyl Y Faenol.

Dydd Mawrth roedd Only Men Aloud! yn diddori'r dyrfa oedd wedi mynd i Fae Caerdydd i weld enillwyr Olympaidd Cymru yn dod adre.

Cafodd Only Men Aloud! ei sefydlu yn 2000 gan Tim Rhys-Evans oedd eisiau creu cr meibion ifanc nad oedd yn ofni perfformio'r caneuon na fyddai corau meibion traddodiadol yn eu perfformio.

Mae 'na athrawon a cherddorion, myfyrwyr, garddwr a fferyllydd yn aelodau o'r cr o 18.

"Dwi''n meddwl bod hi'n ffantastig i gael dau gr o Gymru yn y rownd derfynol," meddai'r arweinydd.

"Mae'n dangos i weddill y wlad ein bod yn wir haeddu bod yn 'wlad y gn'."

Mae 5.5 miliwn o bobl yn gwylio'r rhaglen bob nos Sadwrn ac felly mae'r corau wedi dod yn adnabyddus y tu hwnt i Glawdd Offa.

Mae'n amlwg bod 'na dipyn mwy o ddiddordeb mewn canu corawl oherwydd y gyfres.

'Yn sicr mae'n poblogeiddio cr ac yn ei wneud yn rhywbeth mwy ffasiynol," meddai Mari Pritchard, Arweinydd Cr Cefnogwyr Rygbi'r Gogledd.

"Ond y peth pwysica, nid yn unig ei fod yn codi proffil a'i wneud o fewn cyrraedd pobl, ond mae'n rhywbeth sy'n bosib i bawb ei fwynhau.

"Gellir elwa cymaint, nid yn unig yn gerddorol, ond yn gymdeithasol o fod yn aelod o gr."

Last Choir Standing, BBC Un Cymru nos Sadwrn Awst 30 am 6pm ac am 8.50pm.



HEFYD
Dau gr yn dal i sefyll
28 Gorff 08 |  Newyddion
Dau gr yn camu ymlaen
17 Awst 08 |  Newyddion
Cr Y Gogledd yn Codi Canu
16 Maw 08 |  Newyddion
Corau rygbi yn mynd amdani
26 Ion 08 |  Newyddion
Gwion yw seren y sioe
25 Mai 08 |  Newyddion
Tair Cymraes am fod yn Nancy
22 Maw 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^